Manylion y penderfyniad
Debate on the Petitions Committee’s Report on The Incineration of Waste
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Ymchwiliad ar droed
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i:
- adolygu’r Prosiect Gwyrdd, sy’n mynd yn groes i bolisi Llywodraeth
Cymru o ddarparu cyfleusterau yn lleol a chaniatáu i’n cynghorau ddewis eu
systemau caffael eu hunain ar gyfer rheoli gwastraff a thechnoleg
gwastraff;
- adolygu’r arolwg diffygiol ar wastraff yng Nghymru a oedd yn rhoi
dau ddewis yn unig i bobl ynghylch gwaredu gwastraff;
- erbyn 2020, ei gwneud yn anghyfreithlon i losgi gwastraff y gellir
ei ailgylchu gan y byddai hyn yn annog cynghorau i ailgylchu.
Prif ddeisebydd:
Terry Evans
Nifer y deisebwyr:
21 (Casglwyd deiseb gysylltiedig 13,286 o lofnodion hefyd)
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.50
NDM5161 William Powell
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb P-04-341: Llosgi Gwastraff, a osodwyd gerbron y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Rhagfyr 2012.
Noder:
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 30 Ionawr 2013.
Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 07/02/2013
Dyddiad y penderfyniad: 06/02/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 06/02/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad