Manylion y penderfyniad
Debate: The Change4Life Be Food Smart Campaign
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 15.54
NDM5159 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi lansio ‘Bwyta’n
Gall’ fel rhan o ymgyrch farchnata gymdeithasol Newid am Oes i annog teuluoedd yng
Nghymru i ddewis a choginio prydau bwyd sy’n isel mewn braster, siwgr a halen
ac yn cynnwys mwy o ffrwythau a llysiau.
2. Yn cydnabod bod gan yr ymgyrch rôl bwysig i’w chwarae
fel rhan o amrywiaeth o fentrau cydgysylltiedig gan Lywodraeth Cymru, y GIG a
phartneriaid eraill i gyfrannu at leihau lefelau afiechyd sy’n gysylltiedig â
deiet yng Nghymru.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1- Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 1 newydd
ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu bod pump
o’r 10 ardal awdurdod lleol â’r lefelau isaf o iechyd ‘da’ yng Nghymru a Lloegr
i’w cael yng Nghymoedd De Cymru, ac yn credu y bydd rhagor o ymwybyddiaeth am
fwyta’n iachach yn helpu i wella hyn.
Derbyniwyd gwelliant
1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod
Pleidleisio.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt newydd
ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi bod llawer o
deuluoedd nad ydynt yn gallu cael gafael ar ystod lawn o fwydydd iach ac yn
gresynu bod nifer cynyddol yn ddibynnol ar fanciau bwyd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
11 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i fynd i’r afael â’r cysylltiad rhwng tlodi a deiet gwael fel rhan o’i
hymgyrch.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i lunio cynllun cynhwysfawr ar gyfer diogelu’r cyflenwad bwyd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod deiet
gwael wedi cyfrannu at y ffaith bod 57% o oedolion a 35% o blant yng Nghymru
dros eu pwysau neu’n ordew.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
9 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod pump
awdurdod lleol yng Nghymru ymysg y deg awdurdod ‘lleiaf iach’ yn y Deyrnas
Unedig, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n bendant i fynd i’r afael
â’r heriau deietegol yn yr ardaloedd hyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
9 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i adolygu’r dull gorfiwrocrataidd o weithredu yng nghyswllt Blas am Oes sy’n
ychwanegu at gost darparu bwyd iach mewn ysgolion.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
34 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ategu’r ymgyrch hon drwy sicrhau bod plant yn cael dewis o fwydydd iach
yn yr ysgol gan ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael iddi o dan Fesur Bwyta’n Iach
mewn Ysgolion (Cymru) 2009.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 8.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM5159 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod pump
o’r 10 ardal awdurdod lleol â’r lefelau isaf o iechyd ‘da’ yng Nghymru a Lloegr
i’w cael yng Nghymoedd De Cymru, ac yn credu y bydd rhagor o ymwybyddiaeth am
fwyta’n iachach yn helpu i wella hyn.
2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi lansio ‘Bwyta’n
Gall’ fel rhan o ymgyrch farchnata gymdeithasol Newid am Oes i annog teuluoedd
yng Nghymru i ddewis a choginio prydau bwyd sy’n isel mewn braster, siwgr a
halen ac yn cynnwys mwy o ffrwythau a llysiau.
3. Yn nodi bod llawer
o deuluoedd nad ydynt yn gallu cael gafael ar ystod lawn o fwydydd iach ac yn
gresynu bod nifer cynyddol yn ddibynnol ar fanciau bwyd.
4. Yn cydnabod bod gan yr ymgyrch rôl bwysig i’w chwarae
fel rhan o amrywiaeth o fentrau cydgysylltiedig gan Lywodraeth Cymru, y GIG a
phartneriaid eraill i gyfrannu at leihau lefelau afiechyd sy’n gysylltiedig â
deiet yng Nghymru.
5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r cysylltiad rhwng tlodi a deiet gwael fel
rhan o’i hymgyrch.
6. Yn gresynu bod
deiet gwael wedi cyfrannu at y ffaith bod 57% o oedolion a 35% o blant yng
Nghymru dros eu pwysau neu’n ordew.
7. Yn gresynu bod pump
awdurdod lleol yng Nghymru ymysg y deg awdurdod ‘lleiaf iach’ yn y Deyrnas
Unedig, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n bendant i fynd i’r afael
â’r heriau deietegol yn yr ardaloedd hyn.
8. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ategu’r ymgyrch hon drwy sicrhau bod plant yn cael dewis o
fwydydd iach yn yr ysgol gan ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael iddi o dan Fesur
Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 06/02/2013
Dyddiad y penderfyniad: 05/02/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/02/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad