Manylion y penderfyniad
Debate on the Communities, Equality and Local Government Committee’s Inquiry into the Welsh Premier League
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a
Llywodraeth Leol yn cynnal ymchwiliad i Uwch Gynghrair Cymru.
Cylch gorchwyl yr ymchwiliad yw i Ystyried materion sy’n ymwneud ag Uwch
Gynghrair Cymru gan gynnwys:
- y graddau y mae safonau pêl-droed yn Uwch Gynghrair
Cymru wedi datblygu dros yr 20 mlynedd diwethaf;
- fformat y gystadleuaeth, ac edrych ar opsiynau posibl
eraill, fel newid i gael tymor dros yr haf;
- datblygiad a chynnydd chwaraewyr, hyfforddwyr a
rheolwyr o Uwch Gynghrair Cymru i gyrraedd lefelau eraill yn y gêm;
- sut y bydd Uwch Gynghrair Cymru yn cyfrannu at
ddatblygu chwaraewyr ac at gymryd rhan yn y gêm ar lefelau is, gan gynnwys
materion sy’n ymwneud â chyfleoedd cyfartal;
- safle Uwch Gynghrair Cymru yn y byd chwaraeon yng
Nghymru a pha mor weladwy yw yn y cyfryngau yng Nghymru;
- y clybiau sy’n aelodau o’r Gynghrair, eu seilwaith
a’u hadnoddau;
- sut y bydd Cynllun Strategol 2012 diweddar Cymdeithas
Bêl-droed Cymru yn cyfrannu at gryfhau Uwch Gynghrair Cymru, a sut y bydd
Uwch Gynghrair Cymru yn cyfrannu at amcanion y Cynllun Strategol.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.04
NDM5155
Ann Jones (Dyffryn Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi
adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Uwch Gynghrair
Cymru a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Tachwedd 2012.
Nodwch: Gosodwyd
ymateb y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 23 Ionawr 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 31/01/2013
Dyddiad y penderfyniad: 30/01/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 30/01/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad