Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 15.31
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5144 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn mynegi pryder dwys ynghylch
effaith negyddol bosibl y cynigion i ad-drefnu GIG Cymru ar gleifion.
2.
Yn nodi pryderon
eang ynghylch y ffordd anghyson y mae byrddau
iechyd lleol yn cynnwys y cyhoedd
yn y broses o newid y GIG.
3.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i egluro’i harweiniad ar gynnwys y cyhoedd
yn y broses o newid gwasanaethau’r GIG i sicrhau na ellir
anwybyddu barn y cyhoedd wrth wneud penderfyniadau
ynghylch dyfodol gwasanaethau’r GIG.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
30 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gallu ateb
unrhyw alw ychwanegol a allai
godi yn sgîl
ad-drefnu GIG Cymru cyn y caiff unrhyw
newidiadau eu gwneud.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5144 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn mynegi pryder dwys ynghylch
effaith negyddol bosibl y cynigion i ad-drefnu GIG Cymru ar gleifion.
2.
Yn nodi pryderon
eang ynghylch y ffordd anghyson y mae byrddau
iechyd lleol yn cynnwys y cyhoedd
o ran newid y GIG.
3.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i egluro’i harweiniad ar gynnwys y cyhoedd
yn y newidiadau i wasanaethau’r GIG i sicrhau na ellir
anwybyddu barn y cyhoedd wrth wneud penderfyniadau
ynghylch dyfodol gwasanaethau’r GIG.
4.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gallu
ateb unrhyw alw ychwanegol a
allai godi yn sgîl ad-drefnu
GIG Cymru cyn y caiff unrhyw newidiadau
eu gwneud.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
26 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 24/01/2013
Dyddiad y penderfyniad: 23/01/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 23/01/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad