Manylion y penderfyniad

Debate on the Environment and Sustainability Committee’s short report on Coastal Protection in Wales

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Wedi’i gwblhau

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Diogelu’r Arfordir yng Nghymru: Cylch Gorchwyl

 

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Genedlaethol gyntaf ar Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, a oedd yn amlinellu eu hymrwymiad i reoli’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol drwy Gymru, ym mis Tachwedd 2011.

 

Yn ei gyfarfod ar 21 Mawrth 2012, cytunodd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i gynnal ymchwiliad i ddiogelu’r arfordir yng Nghymru. Diben yr ymchwiliad hwn yw:

 

  • asesu cynnydd Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau risg llifogydd yng Nghymru o ran gweithredu amcanion y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru;
  • ystyried sut yr adlewyrchir amcanion y Strategaeth yn y Cynlluniau Rheoli Traethlin a’r Strategaethau Perygl Llifogydd Lleol;
  • casglu safbwyntiau rhanddeiliaid ar y Strategaeth a sut y darperir hi, a sut y byddai modd gwella hyn;
  • casglu safbwyntiau ynghylch sut yr ariennir y gwaith o ddiogelu’r arfordir a sut y byddai modd gwella hyn;
  • gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar sut y byddai modd gwella darpariaeth dulliau diogelu’r arfordir yng Nghymru ac ariannu’r ddarpariaeth honno.

 

Bydd y Pwyllgor yn ystyried:

 

  • a oes unrhyw rwystrau i ddatblygu’r gwaith o ddiogelu’r arfordir yng Nghymru a sut y byddai modd mynd i’r afael â hwy?
  • ar ba gam yn eu datblygiad y mae’r Strategaethau Perygl Llifogydd Lleol ar hyn o bryd, a sut y byddant yn gweithredu’r Strategaeth Genedlaethol a’r Cynlluniau Rheoli Traethlin?
  • pa mor effeithiol yw’r dulliau o ariannu gwaith diogelu’r arfordir ar hyn o bryd?
  • beth a wneir i gyfathrebu ynghylch amcanion diogelu’r arfordir a’r risgiau sy’n gysylltiedig â hyn, a beth yw’r cynlluniau ar gyfer cyfathrebu yn eu cylch yn y dyfodol?
  • beth yw safbwyntiau rhanddeiliaid am y pwyntiau gwahanol hyn?

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.17

 

NDM5136 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i ddiogelu'r arfordir yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Hydref 2012.

 

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Ionawr 2013.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyddiad cyhoeddi: 17/01/2013

Dyddiad y penderfyniad: 16/01/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/01/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad