Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.00
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5131 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i wladoli Maes Awyr
Caerdydd; a
2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddarparu tystiolaeth y bydd prynu Maes
Awyr Caerdydd yn werth am arian ac o fudd i drethdalwyr Cymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
41 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt
2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn nodi
nad yw
prynu maes awyr yn flaenoriaeth
fel y nodwyd yn y Rhaglen Lywodraethu
ac yn nodi ymhellach nad yw’n
flaenoriaeth yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
17 |
9 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cyfres glir o amcanion
mesuradwy ar gyfer prynu Maes
Awyr Caerdydd a chyflwyno rhaglen ddatblygu gredadwy ar gyfer sicrhau
busnes llwyddiannus yno.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gan na dderbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio, a chan na
dderbyniwyd y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 10/01/2013
Dyddiad y penderfyniad: 09/01/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/01/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad