Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.20
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM5106 William
Graham (Dwyrain De Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod:
a) nifer y bobl anabl sy’n defnyddio Taliadau Uniongyrchol i drefnu eu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn isel o’i chymharu â gwledydd eraill y DU;
b) diffyg cefnogaeth a gwybodaeth ar gael ar hyn o bryd i ddefnyddwyr gwasanaeth ynghylch yr ystod o ddewisiadau sydd ar gael iddynt; ac
c) nid oes digon o ddewis o Daliadau Uniongyrchol mewn gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru na rheolaeth drostynt.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) defnyddio'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i adlewyrchu model yr Alban o gymorth hunangyfeiriedig, i sicrhau bod defnyddwyr gofal cymdeithasol yn gallu rheoli eu pecynnau gofal a chymorth drwy daliadau uniongyrchol a chyfrifon a reolir gan drydydd partïon;
b) gweithio i sefydlu cofrestr genedlaethol wirfoddol o gynorthwywyr personol i sicrhau bod ganddynt y gefnogaeth a’r hyfforddiant priodol i’w harfogi â’r sgiliau i ymdrin ag ystod o gyflyrau; ac
c) annog cynorthwywyr personol i ddarparu rhwydwaith o gefnogaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth os bydd amgylchiadau’n codi nad oedd modd eu rhagweld.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
37 |
49 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru)
Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
‘Yn cydnabod nad yw Taliadau Uniongyrchol yn briodol ar gyfer pob person anabl.’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
0 |
41 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru)
Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
‘Yn cydnabod na fyddai rhagor o ddefnydd o Daliadau Unigol yn digolledu pobl anabl am golli’r lwfans byw i’r anabl.’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
5 |
12 |
49 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru)
Cynnwys is-bwynt 2a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
‘cynnal gofal cymdeithasol a gyllidir yn uniongyrchol ochr yn ochr â Thaliadau Uniongyrchol;’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 2a dileu ‘i adlewyrchu model yr Alban o gymorth hunangyfeiriedig,’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
24 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 2b, dileu ‘sefydlu cofrestr genedlaethol wirfoddol o gynorthwywyr personol i sicrhau bod ganddynt’ a rhoi yn ei le ‘sicrhau bod gan gynorthwywyr personol’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
17 |
49 |
Derbyniwyd
gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
cydnabod nad yw Taliadau Uniongyrchol yn addas i bawb, ac i gynnal darpariaeth addas ar gyfer y rheini y bydd angen darparu gofal cymdeithasol ar eu rhan o hyd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd
gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
‘sicrhau
bod pobl anabl yn cael gwybodaeth
a chyngor am eu hawliau, a bod gwasanaethau cynghori'n gymwys i gynorthwyo pobl anabl i lywio eu
ffordd drwy system annheg a diffygiol yr asesiadau gallu
i weithio.’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd
gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5106 William
Graham (Dwyrain De Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi
bod:
a) nifer
y bobl anabl sy’n defnyddio Taliadau Uniongyrchol i drefnu eu gofal
cymdeithasol yng Nghymru yn isel
o’i chymharu â gwledydd eraill y DU;
b) diffyg
cefnogaeth a gwybodaeth ar gael ar
hyn o bryd i ddefnyddwyr gwasanaeth ynghylch yr ystod
o ddewisiadau sydd ar gael iddynt;
ac
c) nid oes digon o ddewis o Daliadau Uniongyrchol mewn gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru na rheolaeth drostynt.
2. Yn cydnabod nad yw Taliadau Uniongyrchol yn briodol ar gyfer pob person anabl.
3. Yn cydnabod
na fyddai
rhagor o ddefnydd o Daliadau Unigol yn digolledu pobl
anabl am golli’r lwfans byw i’r
anabl.
4. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a) cynnal gofal cymdeithasol a gyllidir yn uniongyrchol ochr yn ochr â Thaliadau Uniongyrchol;
b) defnyddio'r
Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, i sicrhau bod defnyddwyr gofal cymdeithasol yn gallu rheoli
eu pecynnau gofal a chymorth drwy daliadau uniongyrchol
a chyfrifon a reolir gan drydydd partïon;
c) gweithio
i sicrhau bod gan gynorthwywyr personol y gefnogaeth a’r hyfforddiant priodol i’w harfogi â’r
sgiliau i ymdrin ag ystod o gyflyrau;
d) annog cynorthwywyr personol i ddarparu rhwydwaith o gefnogaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth os bydd amgylchiadau’n codi nad oedd modd eu rhagweld;
e) cydnabod nad yw Taliadau Uniongyrchol yn addas i bawb, ac i gynnal darpariaeth addas ar gyfer y rheini y bydd angen darparu gofal cymdeithasol ar eu rhan o hyd; a
f) sicrhau
bod pobl anabl yn cael gwybodaeth
a chyngor am eu hawliau, a bod gwasanaethau cynghori'n gymwys i gynorthwyo pobl anabl i lywio eu
ffordd drwy system annheg a diffygiol yr asesiadau gallu
i weithio.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
12 |
49 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 29/11/2012
Dyddiad y penderfyniad: 28/11/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/11/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad