Manylion y penderfyniad
Debate on The Children's Commissioner for Wales' Annual Report 2011-12
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.12
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y
DU i sicrhau bod gan Gomisiynydd Plant Cymru gyfrifoldeb dros faterion wedi eu
datganoli a materion heb eu datganoli sy’n ymwneud â phlant yng Nghymru.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon
tan y Cyfnod Pleidleisio.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu trefniadau llywodraethu Comisiynydd
Plant Cymru, ac i ystyried gwneud y Comisiynydd yn atebol i Gynulliad
Cenedlaethol Cymru yn hytrach nag i’r Prif Weinidog yn unig.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
26 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod datganiad i’r wasg Comisiynydd Plant Cymru sy’n gysylltiedig ag
Adroddiad Blynyddol 2011-12:
a) yn cydnabod y pryderon a fynegwyd wrth Gomisiynydd Plant Cymru nad yw
rhai pobl ifanc yng Nghymru yn gallu cael gafael ar wasanaethau ieuenctid o
ansawdd da, ac nad yw gwasanaethau ieuenctid yn cael eu gwerthfawrogi ddigon; a
b) yn galw am ymrwymiad cenedlaethol i gydnabod gwerth gwaith ieuenctid.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5095 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2011-12.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y
DU i sicrhau bod gan Gomisiynydd Plant Cymru gyfrifoldeb dros faterion wedi eu
datganoli a materion heb eu datganoli sy’n ymwneud â phlant yng Nghymru.
Yn nodi bod datganiad i’r wasg Comisiynydd Plant Cymru sy’n gysylltiedig ag
Adroddiad Blynyddol 2011-12:
a) yn cydnabod y pryderon a fynegwyd wrth Gomisiynydd Plant Cymru nad yw
rhai pobl ifanc yng Nghymru yn gallu cael gafael ar wasanaethau ieuenctid o
ansawdd da, ac nad yw gwasanaethau ieuenctid yn cael eu gwerthfawrogi ddigon; a
b) yn galw am ymrwymiad cenedlaethol i gydnabod gwerth gwaith ieuenctid.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
1 |
51 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 21/11/2012
Dyddiad y penderfyniad: 20/11/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/11/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad