Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.50
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau
o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM5092 William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi swyddogaeth bwysig y stryd fawr yng Nghymru fel canolfan ar gyfer ymgysylltu cymunedol, rhoi hwb i economïau lleol a gwella balchder bro;
2. Yn nodi’r sialensiau sy’n wynebu’r stryd fawr yng Nghymru, gan gynnwys cyfraddau uchel o unedau gwag, y cynnydd mewn siopa ar y rhyngrwyd a datblygu canolfannau manwerthu ar gyrion trefi.
3. Yn nodi’r cynigion a amlinellir yn y papur polisi ‘A Vision for the Welsh High Street’; a
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r cynigion a amlinellir yn ‘A Vision for the Welsh High Street’ a chyhoeddi ymateb yn rhoi manylion ynghylch sut y bydd yn ymgorffori’r cynigion hyn yn ei hadolygiad adfywio parhaus.
Mae linc i ‘A Vision for the Welsh
High Street’ ar gael
yma (Saesneg yn unig):
http://www.welshconservatives.com/sites/www.welshconservatives.com/files/a_vision_for_the_welsh_high_street.pdf
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
36 |
46 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt 2 newydd ac ailrifo’r pwyntiau sy’n dilyn:
Yn gresynu nad yw TAN 4: Manwerthu a Chanol Trefi wedi’i ddiweddaru ers datganoli.
Gellir gweld TAN 4 drwy fynd i:
http://wales.gov.uk/topics/planning/policy/tans/tan4/?skip=1&lang=cy
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
24 |
46 |
Gwrthodwyd
gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 4, a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru, ‘‘Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid’’, yn rhoi pwyslais cryf ar adfywio canol trefi; ac yn nodi ymhellach ymrwymiad Llywodraeth Cymru i archwilio holl opsiynau adfywio canol trefi gyda golwg ar gyhoeddi ei chynigion i gefnogi canol trefi yn dilyn yr ymgynghoriad hwnnw.’
Gallwch weld yr ymgynghoriad drwy fynd i:
http://wales.gov.uk/consultations/businessandeconomy/vvp/?skip=1&lang=cy
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
22 |
46 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gan fod
gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 4 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am ragor o bwerau i gymunedau liniaru ar effaith canolfannau siopa ar gyrion trefi ar siopau lleol, adfywio canol trefi lleol, a gostwng ardrethi busnes ar gyfer cyfleusterau cymunedol mewn canol trefi er mwyn annog ail-leoli.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
0 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen i ledaenu arfer gorau ym maes adfywio canol trefi ledled Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
0 |
46 |
Derbyniwyd
gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithio gydag awdurdodau lleol i gynnig gostyngiadau mewn ardrethi busnes
i denantiaid sydd naill ai’n newydd
i’r ardal neu sy’n ehangu
busnes presennol, ac sy’n cymryd les eiddo sydd wedi
bod yn wag am o leiaf 12 mis, fel ffordd
o ddenu busnesau newydd a busnesau sy’n ehangu i'r
Stryd Fawr yng Nghymru er
mwyn annog adfywio.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
0 |
41 |
46 |
Gwrthodwyd
gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5092 William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
1. Yn nodi
swyddogaeth bwysig y stryd fawr yng
Nghymru fel canolfan ar gyfer
ymgysylltu cymunedol, rhoi hwb i economïau
lleol a gwella balchder bro;
2. Yn nodi’r
sialensiau sy’n wynebu’r stryd fawr yng Nghymru,
gan gynnwys cyfraddau uchel o unedau gwag, y cynnydd mewn siopa
ar y rhyngrwyd a datblygu canolfannau manwerthu ar gyrion
trefi.
3. Yn nodi’r
cynigion a amlinellir yn y papur polisi
‘A Vision for the Welsh High Street’; a
4. Yn nodi bod dogfen
ymgynghori Llywodraeth Cymru, ‘‘Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid’’, yn rhoi
pwyslais cryf ar adfywio canol
trefi; ac yn nodi ymhellach ymrwymiad Llywodraeth Cymru i archwilio holl opsiynau adfywio
canol trefi gyda golwg ar
gyhoeddi ei chynigion i gefnogi canol trefi yn
dilyn yr ymgynghoriad hwnnw.’
Gallwch weld yr ymgynghoriad drwy fynd i:
http://wales.gov.uk/consultations/businessandeconomy/vvp/?skip=1&lang=cy
5. Yn galw am ragor o bwerau i gymunedau liniaru ar effaith canolfannau siopa ar gyrion trefi ar siopau lleol, adfywio canol trefi lleol, a gostwng ardrethi busnes ar gyfer cyfleusterau cymunedol mewn canol trefi er mwyn annog ail-leoli.
6. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen i ledaenu arfer gorau
ym maes
adfywio canol trefi ledled Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
10 |
5 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 15/11/2012
Dyddiad y penderfyniad: 14/11/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/11/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad