Manylion y penderfyniad
Debate on the Public Accounts Committee's report 'Progress in delivering the Welsh Housing Quality Standard'
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cyhoeddwyd adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, sef Cynnydd o ran
cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru ym mis Ionawr 2012. Roedd yr adroddiad yn ystyried a oedd
landlordiaid wedi gwneud cynnydd da i wella ansawdd tai cymdeithasol yn unol â gofynion
Safonau Ansawdd Tai Cymru. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Safonau yn 2002 fel y
safon ofynnol ar gyfer cartrefi a phennodd darged y dylai pob tŷ
cymdeithasol gydymffurfio â gofynion y Safonau erbyn diwedd 2012.
Mae prif elfennau'r Safonau'n cynnwys bod cartrefi:
· mewn cyflwr da;
- yn ddiogel;
- yn ddigon cynnes, yn rhad ar danwydd ac wedi'u hinsiwleiddio'n dda;
- yn cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi modern;
- yn cael eu rheoli'n dda (ar gyfer tai rhent);
- mewn mannau deniadol a diogel; a
- chymaint â phosibl, yn addas i anghenion penodol y teulu, er
enghraifft, yn addas ar gyfer anableddau penodol.
Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn nodi o'r dechrau bod Llywodraeth
Cymru wedi nodi'r buddiannau cyffredinol y gellir eu cael yn sgil y gwaith i
gyrraedd y Safonau. Mae'r rhain yn cynnwys creu swyddi ac adfywio ardal, yn
ogystal ag iechyd, lles a diogelwch gwell. Roedd ymgynghori'n well â
thenantiaid a'u cynnwys fwy yn y broses o reoli tai hefyd yn ganlyniadau
pwysig. Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod sawl tenant wedi gweld gwelliannau
sylweddol yn ansawdd eu tai, er na chaiff y nod gwreiddiol y byddai pob tŷ
cymdeithasol yn cyrraedd y Safonau Ansawdd Tai Cymru erbyn 2012 ei sicrhau.
Daeth yr adroddiad i'r casgliad hefyd nad yw Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n
ddigon cyflym i gefnogi a monitro cynnydd ac nid yw wedi rhoi fframwaith
effeithiol ar waith i ddangos gwerth am arian o'r buddsoddiad sylweddol sydd
wedi'i gynllunio i gyrraedd y Safonau.
Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
ymchwiliad i'r Safonau, lle archwiliwyd y canlynol:
·
Cyflawniadau'n cyrraedd y Safonau yn ôl targedau
- Gwendidau yn
arweinyddiaeth a gwaith monitro Llywodraeth Cymru
·
Dyfodol y Safonau
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.14
NDM5089 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Medi 2012.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2012.
Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 15/11/2012
Dyddiad y penderfyniad: 14/11/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/11/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad