Manylion y penderfyniad
Debate on the Draft Budget 2013-14
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16:24
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau
o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddrafftio ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer
2013-14 fel ei bod:
a) yn mynd i’r afael â’r pwysau ariannol eithriadol ar y Gwasanaeth Iechyd
o ganlyniad i doriadau mewn termau real o £493 miliwn dros dair blynedd;
b) yn diwallu anghenion busnesau yng Nghymru, sy’n hanfodol wrth greu
cyflogaeth;
c) yn cau’r bwlch cyllido rhwng disgyblion ysgol yng Nghymru a Lloegr; a
d) yn sicrhau darpariaeth i liniaru’r codiadau yn y dreth gyngor ar gyfer cartrefi
yng Nghymru lle mae’r esgid ariannol yn gwasgu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
11 |
10 |
32 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y bwlch mewn gwariant ar addysg rhwng Cymru a Lloegr a fydd
yn gwaethygu oherwydd na lwyddwyd i gynyddu’n sylweddol y Grant Amddifadedd
Disgyblion yn 2013/14.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
5 |
21 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw’r Gyllideb Ddrafft yn ceisio mynd i’r afael â’r diffyg mynediad at driniaethau arloesol yn y GIG.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
16 |
10 |
26 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
NDM5087 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r
Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn
ariannol 2013-2014 a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ ar 2 Hydref 2012.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
10 |
16 |
53 |
Derbyniwyd y
cynnig
Dyddiad cyhoeddi: 14/11/2012
Dyddiad y penderfyniad: 13/11/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/11/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad