Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.24
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5084 William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn talu teyrnged i aberth ac ymrwymiad aruthrol y rheini sydd wedi gwasanaethu yn ein Lluoedd Arfog;
2. Yn mynegi pryder am ddiffyg cydlyniant a chapasiti gwasanaethau yng Nghymru i gefnogi cyn-filwyr sy’n dioddef anhwylder straen wedi trawma ac yn nodi’r rôl y gall y trydydd sector ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau wedi’u cydlynu i gyn-filwyr;
3. Yn nodi canfyddiadau Adroddiad Gofal Iechyd a Chymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried yn fanwl sefydlu canolfan breswyl yng Nghymru ar gyfer cyn-filwyr gydag anhwylder straen wedi trawma; ac
4. Yn cydnabod y rôl hanfodol y mae cofebion rhyfel yn ei chwarae wrth sicrhau nad yw aberth y bobl hynny sydd wedi gwasanaethu yn ein Lluoedd Arfog byth yn mynd yn angof, ac yn nodi pwysigrwydd gwarchod cofebion rhyfel yn rhan allweddol o dreftadaeth Cymru ac fel canolbwynt ar gyfer cofio.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
21 |
41 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 2, dileu popeth cyn ‘rôl’ a rhoi yn ei le: ‘Yn nodi’r buddsoddiad diweddar a wnaed mewn gwasanaethau yng Nghymru i gynorthwyo cyn-filwyr sy’n dioddef anhwylder straen wedi trawma, ac yn derbyn pa mor bwysig yw’r’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
21 |
0 |
20 |
41 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5084 William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn talu teyrnged i aberth ac ymrwymiad aruthrol y rheini sydd wedi gwasanaethu yn ein Lluoedd Arfog;
2. Yn nodi’r buddsoddiad diweddar a wnaed mewn gwasanaethau yng Nghymru i gynorthwyo cyn-filwyr sy’n dioddef anhwylder straen wedi trawma, ac yn derbyn pa mor bwysig yw’r rôl y gall y trydydd sector ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau wedi’u cydlynu i gyn-filwyr;
3. Yn nodi canfyddiadau Adroddiad Gofal Iechyd a Chymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried yn fanwl sefydlu canolfan breswyl yng Nghymru ar gyfer cyn-filwyr gydag anhwylder straen wedi trawma; ac
4. Yn cydnabod y rôl hanfodol y mae cofebion rhyfel yn ei chwarae wrth sicrhau nad yw aberth y bobl hynny sydd wedi gwasanaethu yn ein Lluoedd Arfog byth yn mynd yn angof, ac yn nodi pwysigrwydd gwarchod cofebion rhyfel yn rhan allweddol o dreftadaeth Cymru ac fel canolbwynt ar gyfer cofio.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
1 |
41 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 08/11/2012
Dyddiad y penderfyniad: 07/11/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 07/11/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad