Manylion y penderfyniad
Debate on The Equality and Human Rights Commission Annual Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16:30
NDM5081 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng
Nghymru ‘Sicrhau agenda gydraddoldeb a hawliau dynol gref – adolygiad Cymru 2011-12’.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ar lwyddiant y Gemau Paralympaidd er
mwyn hybu agwedd gadarnhaol at anabledd, a mynd i'r afael â gwahaniaethu a
throseddau casineb anabledd.
Derbyniwyd gwelliant
1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi nad yw un o bob wyth unigolyn ifanc rhwng 16 a 18 oed yng Nghymru
mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gyflwyno mesurau i fynd i’r afael â'r broblem hon.
Derbyniwyd gwelliant
2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod y disgwyliad oes yng Nghymru yn is ar gyfartaledd nag yn
Lloegr, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau i fynd i’r afael ag
anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru a rhwng Cymru a gweddill y DU.
Derbyniwyd gwelliant
3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5081 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng
Nghymru ‘Sicrhau agenda gydraddoldeb a hawliau dynol gref – adolygiad Cymru
2011-12’.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ar lwyddiant y Gemau Paralympaidd er
mwyn hybu agwedd gadarnhaol at anabledd, a mynd i'r afael â gwahaniaethu a
throseddau casineb anabledd.
Yn nodi nad yw un o bob wyth unigolyn ifanc rhwng 16 a 18 oed yng Nghymru
mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gyflwyno mesurau i fynd i’r afael â'r broblem hon.
Yn nodi bod y disgwyliad oes yng Nghymru yn is ar gyfartaledd nag yn
Lloegr, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau i fynd i’r afael ag
anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru a rhwng Cymru a gweddill y DU.
Derbyniwyd y
cynnig, fel y'i diwygiwyd, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 07/11/2012
Dyddiad y penderfyniad: 06/11/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 06/11/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad