Manylion y penderfyniad

Debate on the City Regions Report

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.56


Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y bydd dinas-ranbarthau yn cyfrannu at dwf economaidd yn y modd mwyaf effeithiol os bydd cysylltedd digidol a thrafnidiaeth yn gwella ar draws y rhanbarth.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddigon o drosolwg democrataidd mewn penderfyniadau a wneir ar lefel y ddinas-ranbarth.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynegi pryder nad yw’r adroddiad yn rhoi digon o sylw i'r rôl y gall canolfannau diwydiannol yng ngogledd-ddwyrain Cymru ei chwarae i arwain y twf economaidd yng ngogledd Cymru.

 Tynnwyd gwelliant 3 yn ôl.

 

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y bydd llwyddiant dinas-ranbarthau yn dibynnu ar gydweithio rhwng pob haen o lywodraeth; ynghyd â'r sector corfforaethol, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.



Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod na ddylai’r gwaith o weithredu dinas-ranbarthau amharu ar adfywio yng ngweddill ardaloedd Cymru.

Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi manylion llawn ynghylch y ffordd orau i'r ardaloedd menter perthnasol gefnogi dinas-ranbarth De-Ddwyrain Cymru.

Derbyniwyd gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5064 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r adroddiad ar y Dinas-ranbarthau.

Yn credu y bydd dinas-ranbarthau yn cyfrannu at dwf economaidd yn y modd mwyaf effeithiol os bydd cysylltedd digidol a thrafnidiaeth yn gwella ar draws y rhanbarth.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddigon o drosolwg democrataidd mewn penderfyniadau a wneir ar lefel y ddinas-ranbarth.

Yn credu y bydd llwyddiant dinas-ranbarthau yn dibynnu ar gydweithio rhwng pob haen o lywodraeth; ynghyd â'r sector corfforaethol, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.

Yn cydnabod na ddylai’r gwaith o weithredu dinas-ranbarthau amharu ar adfywio yng ngweddill ardaloedd Cymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi manylion llawn ynghylch y ffordd orau i'r ardaloedd menter perthnasol gefnogi dinas-ranbarth De-Ddwyrain Cymru.

Derbyniwyd y cynnig, fel y'i diwygiwyd, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 17/10/2012

Dyddiad y penderfyniad: 16/10/2012

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/10/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad