Manylion y penderfyniad
Debate on the Enterprise and Business Committee's report: Influencing the Modernisation of EU Procurement Policy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Gaffael - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Ar ôl i’r Comisiwn Ewropeaidd
gyhoeddi ei gynigion ar gyfer diwygio deddfwriaeth ynghylch caffael cyhoeddus
ym mis Rhagfyr 2011, bu’r grŵp gorchwyl a gorffen yn trafod sut y
gallai'r newidiadau arfaethedig hyn effeithio ar gaffael cyhoeddus yng Nghymru
a sut y gallent fynd i'r afael â materion fel:
- cynyddu nifer y busnesau bach a chanolig, gan gynnwys
mentrau cymdeithasol, sy’n ymgysylltu â’r maes caffael cyhoeddus;
- defnyddio caffael cyhoeddus i ddiwallu amcanion
polisi eraill, fel polisïau cymdeithasol ac amgylcheddol;
- cymhlethdodau a hyblygrwydd y system gaffael
gyhoeddus.
Roedd y Pwyllgor wedi gwahoddi
sylwadau ar y materion canlynol:
- pa mor effeithiol yw’r rheoliadau caffael presennol o
ran y modd y maent yn cael eu gweithredu yng Nghymru, a hynny o safbwynt
cyflenwyr/contractwyr ac o safbwynt awdurdodau prynu?
- sut y byddai’r newidiadau arfaethedig i Gyfarwyddebau
perthnasol yr UE yn effeithio ar y broses caffael cyhoeddus yng Nghymru,
gan gynnwys y materion a ganlyn:
· ymgysylltiad busnesau bach a
chanolig (gan gynnwys mentrau cymdeithasol) yn y broses caffael cyhoeddus;
· defnyddio caffael cyhoeddus i
ddiwallu amcanion polisi eraill (fel polisïau cymdeithasol ac amgylcheddol);
· cymhlethdodau a hyblygrwydd
rheolau caffael presennol;
· gwerth am arian i’r awdurdod
prynu?
- sut ddylid moderneiddio cyfarwyddebau caffael yr UE
a’r rheoliadau gweithredu a’r codau ymarfer yng Nghymru, er mwyn cwrdd ag
anghenion cyflenwyr/contractwyr ac awdurdodau prynu Cymreig, ac er mwyn
gwneud y mwyaf o gapasiti cwmnïau Cymreig i gwrdd â’r heriau sydd ynghlwm
â rheolau caffael? Yn benodol, sut
ddylid ail-lunio rheoliadau a/neu ganllawiau ar gyfer contractau nad ydynt
yn cyrraedd y trothwyon caffael a bennir gan gyfarwyddebau’r UE?
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 16.20
NDM5042 Nick Ramsay (Mynwy)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes: Dylanwadu ar y broses o Foderneiddio Polisi Caffael Ewrop, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 19/07/2012
Dyddiad y penderfyniad: 18/07/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/07/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad