Manylion y penderfyniad
Debate on the Communities, Equality and Local Government Committee's Report by the Task and Finish Group on the Future Outlook for the Media in Wales
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ragolygon ar gyfer Dyfodol y Cyfryngau yng Nghymru - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol er mwyn cynnal
ymchwiliad i’r rhagolygon ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru yn y dyfodol.
Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd i edrych ar y rhagolygon ar gyfer
gwahanol lwyfannau’r cyfryngau yng Nghymru drwy ystyried:
- cyflwr presennol y cyfryngau yng Nghymru a’r effaith y mae technoleg newydd a datblygiadau eraill yn ei chael
ar hyn, yng nghyd-destun pryderon parhaus ynghylch dyfodol y cyfryngau darlledu a phrint yng Nghymru;
- beth ddylai’r blaenoriaethau fod o safbwynt Cymru wrth i Lywodraeth y DU gyflwyno cynigion ar gyfer ei
Bil cyfathrebu;
- y
cyfleoedd ar gyfer adeiladu modelau busnes newydd ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru; a
- beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud
i roi argymhellion adroddiad Hargreaves ar waith a pha gamau eraill y gellid eu cymryd i gryfhau’r cyfryngau yng Nghymru o ran cynnwys ac plwraliaeth y ddarpariaeth.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.26
NDM5041 Ann Jones (Dyffryn
Clwyd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
Nodi adroddiad grŵp gorchwyl a gorffen y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar ragolygon ar gyfer dyfodol y cyfryngau yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mai 2012.
Er gwybodaeth, gosodwyd ymateb y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Gorffennaf 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 19/07/2012
Dyddiad y penderfyniad: 18/07/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/07/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad