Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.25.
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5015
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth ar gyfer twf economaidd
yng Nghymru;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithio gydag awdurdodau lleol, ASau Cymru a’r
Adran Drafnidiaeth i drydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western i Abertawe
a thrydaneiddio rheilffyrdd
cymoedd De Cymru;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i amlinellu strategaeth integredig i gysylltu De a Gorllewin Cymru i’r brif reilffordd
wedi’i thrydaneiddio; a
4. Yn gresynu bod Llywodraethau olynol yng Nghymru o dan
arweiniad Llafur wedi methu â chysylltu
cymunedau ar draws Cymru drwy rwydwaith
trafnidiaeth integredig.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
34 |
45 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
Yn gresynu nad oedd gan Lywodraeth Lafur flaenorol y DU unrhyw gynlluniau i drydaneiddio Rheilffordd y Cymoedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
23 |
45 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
‘Yn nodi nad yw’r gwariant ar seilwaith rheilffyrdd wedi’i ddatganoli ac mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw, a bod gwariant Network Rail wedi’i ddatganoli i Lywodraeth yr Alban yn 2006.’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
45 |
0 |
0 |
45 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar ddechrau pwynt 2:
‘Yn
nodi na wnaeth
Llywodraeth Lafur flaenorol y DU drydaneiddio’r un filltir o Brif Lein y Great Western ac’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
23 |
45 |
Gwrthodwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4
- Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 2, dylid dileu ‘ASau
Cymru’ a rhoi ‘ASau’ yn ei
le.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
11 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
‘Yn
galw ar Lywodraeth
Cymru i geisio datganoli cyllideb Network Rail a’r holl gyfrifoldebau
eraill yn ymwneud â seilwaith rheilffyrdd.’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
11 |
0 |
45 |
Derbyniwyd
gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt 4 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganfod pa mor ymarferol yw cyflwyno cerdyn Oyster ar gyfer Cymru gyfan, gan weithio gyda chwmnïau trên a chwmnïau bysiau i sicrhau bod pobl yn gallu teithio o amgylch Cymru yn rhwydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
45 |
0 |
0 |
45 |
Derbyniwyd
gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Jane Hutt
(Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 4, dileu popeth cyn
‘cymunedau’ a rhoi ‘Yn croesawu’r gwaith
sydd wedi’i wneud gan Lywodraeth
Cymru’n Un a’r Llywodraeth Lafur bresennol i gysylltu’ yn ei le
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
0 |
15 |
45 |
Derbyniwyd
gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 4, dileu: ‘Yn gresynu
bod Llywodraethau olynol yng Nghymru o dan
arweiniad Llafur’ a rhoi yn ei
le:
‘Yn
gresynu bod Llywodraethau olynol yn y DU o dan arweiniad Llafur
a’r Ceidwadwyr’
Gan fod
gwelliant 7 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 8 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sicrhau bod Gogledd Cymru yn gallu
manteisio ar HS2, ac i sicrhau na fydd
unrhyw newidiadau yn cael effaith
anffafriol ar wasanaethau prif lein West Coast i Gaergybi.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
0 |
1 |
45 |
Derbyniwyd
gwelliant 9.
Gwelliant 10 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig:
Yn cefnogi’r ddadl dros ailagor
gorsafoedd yn Bow Street ac
yng Ngharno.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
23 |
45 |
Gwrthodwyd
gwelliant 10.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5015
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth ar gyfer twf economaidd
yng Nghymru;
2. Yn nodi nad yw’r gwariant ar seilwaith rheilffyrdd wedi’i ddatganoli ac mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw, a bod gwariant Network Rail wedi’i ddatganoli i Lywodraeth yr Alban yn 2006;
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i geisio datganoli cyllideb Network Rail a’r holl gyfrifoldebau eraill yn ymwneud
â seilwaith rheilffyrdd;
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganfod pa mor ymarferol yw cyflwyno cerdyn Oyster ar gyfer Cymru gyfan, gan weithio gyda chwmnïau trên a chwmnïau bysiau i sicrhau bod pobl yn gallu teithio o amgylch Cymru yn rhwydd;
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithio gydag awdurdodau lleol, ASau a’r Adran
Drafnidiaeth i drydaneiddio
Prif Reilffordd y Great
Western i Abertawe a thrydaneiddio
rheilffyrdd cymoedd De Cymru;
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i amlinellu strategaeth integredig i gysylltu De a Gorllewin Cymru i’r brif reilffordd
wedi’i thrydaneiddio;
7. Yn croesawu’r gwaith sydd wedi’i
wneud gan Lywodraeth Cymru’n Un a’r Llywodraeth Lafur bresennol i gysylltu cymunedau ar draws Cymru drwy rwydwaith trafnidiaeth integredig; ac
8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sicrhau bod Gogledd Cymru yn gallu
manteisio ar HS2, ac i sicrhau na fydd
unrhyw newidiadau yn cael effaith
anffafriol ar wasanaethau prif lein West Coast i Gaergybi.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
0 |
15 |
45 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 21/06/2012
Dyddiad y penderfyniad: 20/06/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/06/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad