Manylion y penderfyniad

Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Biliau Preifat a Gwelliannau Amrywiol

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.34.

 

NDM5014 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

 

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor BusnesDiwygiadau Arfaethedig i’r Rheolau Sefydlog: Biliau Preifat a Newidiadau Amrywiol’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mehefin 2012; a

 

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu’r Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiadau B a D i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyddiad cyhoeddi: 21/06/2012

Dyddiad y penderfyniad: 20/06/2012

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/06/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad