Manylion y penderfyniad
Debate on the Mental Health Strategy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17:40
NDM5005 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r Strategaeth Iechyd Meddwl ddrafft, Law yn Llaw at Iechyd Meddwl,
sy’n destun ymgynghori cyhoeddus ar hyn o bryd.
Gallwch weld Law yn Llaw at Iechyd Meddwl drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://wales.gov.uk/consultations/healthsocialcare/mhealth/?skip=1&lang=cy
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno toriadau termau real i’r
gyllideb iechyd yn y flwyddyn ariannol bresennol, ac yn mynegi pryder y
gallai'r rhain amharu ar weithredu Strategaeth Iechyd Meddwl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
39 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y manteision economaidd posibl y byddai Strategaeth Iechyd
Meddwl effeithiol yn eu cynnig i Gymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ddatblygu data gwaelodlin priodol a
dangosyddion perfformiad allweddol i sicrhau y gellir mesur unrhyw gynnydd yn
erbyn y Strategaeth Iechyd Meddwl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen i holl Weinidogion Cymru ymwneud yn llawn â’r broses o
gyflwyno’r Strategaeth Iechyd Meddwl, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
ddatblygu prosesau cadarn i sicrhau bod Gweinidogion yn atebol am eu cyfraniad
tuag at wella lles ac iechyd meddwl yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y gall cleifion â chyflyrau corfforol hirdymor fod â phroblemau
iechyd meddwl hefyd;
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y gwaith ymchwil a wnaed gan y King’s Fund sy’n nodi y gall
problemau iechyd corfforol a meddyliol sy’n cydfodoli arwain at gyfraddau uwch
o bobl yn cael eu hanfon i’r ysbyty, mwy o ddefnydd ar wasanaethau cleifion
allanol, a dulliau hunan-reoli llai effeithiol gan gleifion.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant
6.
Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr
bod y cysylltiad rhwng problemau iechyd meddwl ac anhwylderau corfforol
hirdymor yn cael ei gynnwys yn strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, ac yr
anogir cydweithio agosach rhwng gweithwyr proffesiynol sy’n gyfrifol am iechyd
meddwl a chorfforol cleifion er mwyn gwella canlyniadau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant
7.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5005 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r Strategaeth Iechyd Meddwl ddrafft, Law yn Llaw at Iechyd Meddwl,
sy’n destun ymgynghori cyhoeddus ar hyn o bryd.
Yn cydnabod y manteision economaidd posibl y byddai Strategaeth Iechyd
Meddwl effeithiol yn eu cynnig i Gymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ddatblygu data gwaelodlin priodol a
dangosyddion perfformiad allweddol i sicrhau y gellir mesur unrhyw gynnydd yn
erbyn y Strategaeth Iechyd Meddwl.
Yn cydnabod yr angen i holl Weinidogion Cymru ymwneud yn llawn â’r broses o
gyflwyno’r Strategaeth Iechyd Meddwl, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
ddatblygu prosesau cadarn i sicrhau bod Gweinidogion yn atebol am eu cyfraniad
tuag at wella lles ac iechyd meddwl yng Nghymru.
Yn cydnabod y gall cleifion â chyflyrau corfforol hirdymor fod â phroblemau
iechyd meddwl hefyd.
Yn cydnabod y gwaith ymchwil a wnaed gan y King’s Fund sy’n nodi y gall
problemau iechyd corfforol a meddyliol sy’n cydfodoli arwain at gyfraddau uwch
o bobl yn cael eu hanfon i’r ysbyty, mwy o ddefnydd ar wasanaethau cleifion
allanol, a dulliau hunan-reoli llai effeithiol gan gleifion.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr
bod y cysylltiad rhwng problemau iechyd meddwl ac anhwylderau corfforol hirdymor
yn cael ei gynnwys yn strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, ac yr anogir
cydweithio agosach rhwng gweithwyr proffesiynol sy’n gyfrifol am iechyd meddwl
a chorfforol cleifion er mwyn gwella canlyniadau.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 13/06/2012
Dyddiad y penderfyniad: 12/06/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 12/06/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad