Manylion y penderfyniad
Debate on the Green Paper on Future Electoral Arrangements for the National Assembly for Wales
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 16:57.
NDM5006 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r Papur Gwyrdd ar drefniadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru i’r dyfodol: a
2. Yn credu na ddylai Llywodraeth y DU gyflwyno unrhyw newidiadau i’r
trefniadau etholiadol presennol heb gydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gallwch weld y Papur Gwyrdd ar drefniadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru i’r dyfodol drwy ddilyn y linc a ganlyn:
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi mai Ysgrifennydd Gwladol Cymru sydd â’r pwer, o dan Ddeddf
Llywodraeth Cymru 2006, i wneud darpariaethau ynghylch etholiadau Cynulliad
Cenedlaethol Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
41 |
9 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod Llywodraeth Lafur flaenorol y DU wedi gwneud newidiadau i
drefniadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru heb geisio caniatâd Cynulliad
Cenedlaethol Cymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
15 |
9 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu na ddylid gwneud unrhyw newidiadau i drefniadau etholiadol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru oni bai yr eir ati i gynyddu cymesuredd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
5 |
10 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r bwriad i ganiatáu i ymgeiswyr sefyll mewn etholaeth ac mewn rhanbarth yn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
16 |
9 |
25 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant
4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5006 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r Papur Gwyrdd ar drefniadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru i’r dyfodol: a
2. Yn credu na ddylai Llywodraeth y DU gyflwyno unrhyw newidiadau i’r
trefniadau etholiadol presennol heb gydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
3. Yn nodi mai Ysgrifennydd Gwladol Cymru sydd â’r pwer, o dan Ddeddf
Llywodraeth Cymru 2006, i wneud darpariaethau ynghylch etholiadau Cynulliad
Cenedlaethol Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
1 |
6 |
50 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 13/06/2012
Dyddiad y penderfyniad: 12/06/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 12/06/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad