Manylion y penderfyniad
Debate on The Welsh Government's Active Travel Policy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.41
NDM4982 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn ystyried polisïau teithio llesol
Llywodraeth Cymru, a photensial teithio llesol o ran mynd i’r afael â thlodi,
gwella iechyd y cyhoedd a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder nad yw Cymru, ar hyn o
bryd, ar y llwybr cywir i gyrraedd targedau allweddol a gaiff eu diffinio yng
Nghynllun Gweithredu Cerdded a Beicio Llywodraeth Cymru.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrian De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r sylwadau a wnaeth Comisiwn Cymru ar
y Newid yn yr Hinsawdd yn ei Adroddiad Blynyddol cyntaf, y bu cynnydd y
Llywodraeth yn ansicr o ran annog newid ymddygiad tuag at ddewisiadau teithio
doethach.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi
adroddiad blynyddol ar effaith gronnol ei mentrau teithio llesol ar allyriadau
nwyon tŷ gwydr yng Nghymru.
Derbyniwyd
y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod
llwybrau cerdded a llwybrau beicio lleol wedi’u cysylltu â’i gilydd a
chanolfannau teithio eraill er mwyn creu llwybrau rhanbarthol a chenedlaethol
hyfyw.
Derbyniwyd
y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid ei gwneud yn orfodol i bob
datblygiad cynllunio mawr ystyried yr angen am fynediad rhwydd i gerddwyr a
beicwyr.
Derbyniwyd
y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
NDM4982 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn ystyried polisïau teithio llesol
Llywodraeth Cymru, a photensial teithio llesol o ran mynd i’r afael â thlodi,
gwella iechyd y cyhoedd a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Yn nodi â phryder nad yw Cymru, ar hyn o
bryd, ar y llwybr cywir i gyrraedd targedau allweddol a gaiff eu diffinio yng
Nghynllun Gweithredu Cerdded a Beicio Llywodraeth Cymru.
Yn nodi’r sylwadau a wnaeth Comisiwn Cymru ar
y Newid yn yr Hinsawdd yn ei Adroddiad Blynyddol cyntaf, y bu cynnydd y
Llywodraeth yn ansicr o ran annog newid ymddygiad tuag at ddewisiadau teithio
doethach.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi
adroddiad blynyddol ar effaith gronnol ei mentrau teithio llesol ar allyriadau
nwyon tŷ gwydr yng Nghymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod
llwybrau cerdded a llwybrau beicio lleol wedi’u cysylltu â’i gilydd a
chanolfannau teithio eraill er mwyn creu llwybrau rhanbarthol a chenedlaethol
hyfyw.
Yn credu y dylid ei gwneud yn orfodol i bob
datblygiad cynllunio mawr ystyried yr angen am fynediad rhwydd i gerddwyr a
beicwyr.
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio, yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 16/05/2012
Dyddiad y penderfyniad: 15/05/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/05/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad