Manylion y penderfyniad

Y wybodaeth ddiweddaraf o ran Llywodraethu a Sicrwydd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd

Statws: Wedi’i gwblhau

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

Diben:

Adroddiadau Archwilio Mewnol

 

Mae Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd ystyried yr argymhellion a wneir gan Bennaeth Archwilio Mewnol, ymatebion y Rheolwyr a gwaith gweithredu'r argymhellion hynny.

Penderfyniadau:

Eitem lafar

3.1         Rhoddodd Gareth Watts y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar o ran cynnydd yn erbyn gwaith archwilio a oedd yn weddill. Roedd gwaith maes ar gyfer archwilio treuliau'r Aelodau wedi'i gwblhau a'i ddefnyddio gan Archwilio Cymru fel rhan o'i arolwg o gyfrifon y Comisiwn. Byddai'n dosbarthu adroddiad i'r Pwyllgor ar ôl iddo gael ei gwblhau. Byddai hefyd yn gweithio ar adolygiad ehangach o reoli asedau yn ogystal ag archwiliad i roi sicrwydd sy'n ofynnol gan y Prif Weithredwr fel Swyddog Cyfrifyddu mewn perthynas â Chronfa Gyfunol Cymru. Roedd hefyd wedi cytuno â'r Cadeirydd y byddai'n cyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu argymhellion archwilio i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf.

3.2         Gwahoddodd y Cadeirydd Gareth Watts i amlinellu ei sicrwydd mewn cysylltiad â'r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon.  Cadarnhaodd y lefel gymedrol o sicrwydd ar lywodraethu, rheoli risg ac archwilio mewnol a ddarparwyd yn ei Adroddiad Blynyddol a'i Farn ym mis Ebrill. Cadarnhaodd ei fod yn fodlon o safbwynt archwilio mewnol y gellid llofnodi'r cyfrifon.  

 

Dyddiad cyhoeddi: 30/07/2021

Dyddiad y penderfyniad: 18/06/2021

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/06/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd