Manylion y penderfyniad

Diweddariad ar y Fframwaith Rheoli Polisi

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Llywodraethu Comisiwn y Cynulliad

 

Mae Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad yn ystyried y prosesau strategol ar gyfer risg, rheolaeth a llywodraethu.

Penderfyniadau:

ACARAC (05-17) Papur 10 - Fframwaith Rheoli Polisi 

7.1        Cyflwynodd Gareth y papur hwn oedd yn gofyn i’r Pwyllgor nodi’r gwaith sy’n cael ei wneud a’r camau arfaethedig nesaf. Pan gwblheir y gwaith, byddai pob un o’r polisïau’n cael eu brandio a byddai ganddynt ddyddiadau adolygu pendant, a ystyrir yn hanfodol o ran llywodraethu da.

7.2        Er bod y Pwyllgor yn cwestiynu amseriad y gwaith hwn, sicrhaodd Gareth yr aelodau fod y prosiect hwn wedi’i nodi yn 2014 ac nid oedd yn dechrau o’r dechrau. Roedd yr effaith ar adnoddau yn fach ac roedd aelod o’r tîm Llywodraethu a Sicrwydd yn rheoli hyn.  

 

Dyddiad cyhoeddi: 08/03/2018

Dyddiad y penderfyniad: 27/11/2017

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 27/11/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd

Dogfennau Cefnogol:

  • Cyfyngedig