Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
NDM6110 Neil Hamilton
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu y dylid rhoi'r gorau i'r prosiect HS2 a
defnyddio'r arbedion cyfalaf i wella'r rhwydwaith rheilffordd presennol, gan
gynnwys:
(a) ariannu'r gwaith o drydaneiddio prif linell
rheilffordd de Cymru yn llawn, ynghyd â phrosiect metro de Cymru; a
(b) diweddaru rhwydwaith rheilffordd gogledd Cymru yn
eang.
Penderfyniadau:
Dechreuodd yr eitem am 17.15
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6110 Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu y dylid rhoi'r gorau i'r prosiect HS2 a defnyddio'r arbedion
cyfalaf i wella'r rhwydwaith rheilffordd presennol, gan gynnwys:
(a) ariannu'r gwaith o drydaneiddio prif linell rheilffordd de Cymru yn
llawn, ynghyd â phrosiect metro de Cymru; a
(b) diweddaru rhwydwaith rheilffordd gogledd Cymru yn eang.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
6 |
0 |
48 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a
rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod y
manteision cymdeithasol ac economaidd a gaiff HS2 ar bobl canolbarth a gogledd
Cymru.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gydweithio'n adeiladol â Llywodraeth y DU a chyrff
trafnidiaeth rhanbarthol i sicrhau y caiff gwasanaethau ac amserlenni eu trefnu
i sicrhau manteision gorau HS2 i bobl canolbarth a gogledd Cymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
44 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2. Jane
Hutt (Bro Morgannwg):
Dileu popeth a
rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod y
manteision cymdeithasol ac economaidd a gaiff HS2 ar bobl canolbarth a gogledd
Cymru.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gydweithio'n adeiladol â Llywodraeth y DU a chyrff
trafnidiaeth rhanbarthol i sicrhau y caiff gwasanaethau ac amserlenni eu trefnu
i sicrhau manteision gorau HS2 i bobl canolbarth a gogledd Cymru.
3. Yn galw ar
Lywodraeth y DU:
(a) i gyhoeddi
amserlen ar gyfer trydaneiddio prif linell de Cymru hyd at Abertawe;
(b) i ariannu'n
llawn y gwaith o drydaneiddio prif linell gogledd Cymru a llinellau cymoedd y
de;
(c) i warantu holl
arian yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi'i gynllunio ar gyfer Metro De Cymru; ac
(d) i gychwyn
trafodaethau ar drosglwyddo'r cyllid a'r cyfrifoldeb am y seilwaith rheilffyrdd
i Weinidogion Cymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
16 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gan fod gwelliant 2 wedi’i
dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6110 Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
1. Yn cydnabod y
manteision cymdeithasol ac economaidd a gaiff HS2 ar bobl canolbarth a gogledd
Cymru.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gydweithio'n adeiladol â Llywodraeth y DU a chyrff
trafnidiaeth rhanbarthol i sicrhau y caiff gwasanaethau ac amserlenni eu trefnu
i sicrhau manteision gorau HS2 i bobl canolbarth a gogledd Cymru.
3. Yn galw ar
Lywodraeth y DU:
(a) i gyhoeddi
amserlen ar gyfer trydaneiddio prif linell de Cymru hyd at Abertawe;
(b) i ariannu'n
llawn y gwaith o drydaneiddio prif linell gogledd Cymru a llinellau cymoedd y
de;
(c) i warantu holl
arian yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi'i gynllunio ar gyfer Metro De Cymru; ac
(d) i gychwyn
trafodaethau ar drosglwyddo'r cyllid a'r cyfrifoldeb am y seilwaith rheilffyrdd
i Weinidogion Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
8 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 06/10/2016
Dyddiad y penderfyniad: 05/10/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/10/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd