Manylion y penderfyniad

Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2016/17

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Comisiwn y Senedd, Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Gosododd Comisiwn y Cynulliad eu cyllideb ddrafft ar gyfer 2016-17 (PDF, 4MB) o flaen y Cynulliad ym Medi 2015. Ystyriodd y Pwyllgor Cyllid y gyllideb ddrafft a cyhoeddodd adroddiad arno (PDF, 393KB) yn Hydref 2015. Ymatebodd Comisiwn y Cynulliad i adroddiad y pwyllgor (PDF, 448) yn Nhachwedd 2015. Pasiwyd cyllideb derfynol (PDF, 4MB) Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2016-17 gan y Cynulliad cyfan yn Nhachwedd 2015.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.31

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5868 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2016-17, fel y nodir yn nhabl 1, 'Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2016-17', a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 4 Tachwedd 2015 ac sydd i'w hymgorffori yn y Cynnig Cyllideb Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

4

47

Derbyniwyd y Cynnig.

Dyddiad cyhoeddi: 12/11/2015

Dyddiad y penderfyniad: 11/11/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/11/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad