Manylion y penderfyniad
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau – Deddfwriaeth orfodol i sicrhau bod diffibrilwyr ar gael ym mhob man cyhoeddus
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: I'w ystyried
Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy
Diben:
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid i sicrhau, fel yn achos offer diffodd tân sylfaenol (e.e. diffoddwyr), bod diffibrilwyr allanol awtomataidd ar gael ym mhob man cyhoeddus yng Nghymru (wedi’u hariannu gan y GIG, gan elusen neu yn breifat) i sicrhau bod unrhyw un sy’n dioddef ataliad ar y galon yn cael eu trin yn gyflymGwybodaeth Ategol: Mae Cymru wedi arwain y ffordd gyda materion pwysig ynghylch iechyd y cyhoedd megis gwahardd ysmygu a rhoi organau. Yn wahanol i ddiffoddwyr tân a phecynnau cymorth cyntaf, nid oes deddfwriaeth ar hyn o bryd yn y DU i sicrhau bod diffibrilwyr allanol awtomataidd ar gael i drin pobl sy’n cael ataliad sydyn ar y galon yn gyhoeddus. Mae sawl achos amlwg diweddar wedi dangos pa mor bwysig ydynt wrth achub bywydau yn ein cymunedau.
Prif ddeisebydd: Phil Hill
Ysytyriwyd am y tro
cyntaf gan y Pwyllgor: 16 Ebrill 2013
Nifer y llofnodion: 78
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.03
NDM5838 William Powell
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb, 'Deddfwriaeth
orfodol i sicrhau bod diffibrilwyr ar gael ym mhob man cyhoeddus' a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf 2015.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 08/10/2015
Dyddiad y penderfyniad: 07/10/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 07/10/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad