Manylion y penderfyniad
Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Fel rhan o ffyrdd
newydd o weithio y cytunwyd arnynt ar ddechrau 2014, cytunodd y
Pwyllgor i lunio adroddiad blynyddol yn manylu ar waith y Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus am y flwyddyn, a gafodd ei gyflwyno i’w drafod gan y Cynulliad cyfan.
Bwriad yr adroddiad hwn oedd codi proffil gwaith y Pwyllgor ac i gynorthwyo
ymhellach wrth ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.02
NDM5800 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gyfer 2014-15, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 17 Mehefin 2015.
Derbyniwyd
y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 02/07/2015
Dyddiad y penderfyniad: 01/07/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 01/07/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad