Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.51
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5675 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
1. Yn croesawu'r cytundeb
diweddar rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar drydaneiddio
rheilffyrdd, a allai leihau lefelau traffig ar yr M4.
2. Yn credu bod angen prosiect
trafnidiaeth effeithlon, ystyriol a strwythuredig sy'n rhoi gwerth am arian i
economi Cymru a bod yn rhaid iddo gael ei roi ar waith ar y cyfle cyntaf er
mwyn lleddfu tagfeydd cronig ar yr M4 o amgylch Casnewydd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gomisiynu adolygiad llawn a chyflym o'r holl opsiynau, gan gynnwys rhoi
ystyriaeth gyfartal i'r llwybr glas, gyda'r prif nod o wella capasiti'r M4 er
budd modurwyr a busnesau.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
40 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth
Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar y cyd i gynnal Astudiaeth fanwl o'r Effaith
Amgylcheddol ar lwybr dewisol Llywodraeth Cymru, ac na fydd gwaith adeiladu'n
dechrau ar ffordd liniaru'r M4 cyn etholiad nesaf y Cynulliad.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
roi ystyriaeth lawn a chyfartal i'r llwybr glas wrth iddi barhau i ddatblygu ei
chynigion ar gyfer coridor yr M4 o amgylch Casnewydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
43 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
wella ffordd ddosbarthu ddeheuol yr A48 a ffordd fynediad gwaith dur yr A4810
ger gwaith dur Llanwern yng Nghasnewydd, fel rhan o strategaeth drafnidiaeth
integredig ar gyfer de-ddwyrain Cymru yn cynnwys buddsoddiad mewn trafnidiaeth
gyhoeddus, seilwaith cludo nwyddau ar drenau a gwella llwybrau strategol lleol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
5 |
0 |
47 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
sicrhau bod ei chynllun gwariant ehangach ar gyfer y seilwaith trafnidiaeth yn arwain
at fuddsoddiad ac adnoddau'n cael eu dosbarthu'n deg ar hyd a lled y wlad, nid
dim ond o amgylch yr M4 yng Nghasnewydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5675 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu'r cytundeb
diweddar rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar drydaneiddio
rheilffyrdd, a allai leihau lefelau traffig ar yr M4.
2. Yn credu bod angen prosiect
trafnidiaeth effeithlon, ystyriol a strwythuredig sy'n rhoi gwerth am arian i
economi Cymru a bod yn rhaid iddo gael ei roi ar waith ar y cyfle cyntaf er
mwyn lleddfu tagfeydd cronig ar yr M4 o amgylch Casnewydd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gomisiynu adolygiad llawn a chyflym o'r holl opsiynau, gan gynnwys rhoi
ystyriaeth gyfartal i'r llwybr glas, gyda'r prif nod o wella capasiti'r M4 er
budd modurwyr a busnesau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sicrhau bod ei chynllun gwariant ehangach ar gyfer y seilwaith trafnidiaeth
yn arwain at fuddsoddiad ac adnoddau'n cael eu dosbarthu'n deg ar hyd a lled y
wlad, nid dim ond o amgylch yr M4 yng Nghasnewydd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 29/01/2015
Dyddiad y penderfyniad: 28/01/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/01/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad