Manylion y penderfyniad
Dadl ar yr Adroddiad Blynyddol ar Ddatblygu Cynaliadwy 2013-14
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.57
NDM5568 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi'r cynnydd a gyflawnwyd o safbwynt hyrwyddo
datblygu cynaliadwy yn 2013-14, fel yr amlinellir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth
Cymru ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad
Cenedlaethol Cymru ar 23 Mehefin 2014.
Gohiriwyd y bleidlais ar y
cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai'r Comisiynydd Cenedlaethau'r
Dyfodol a gynigir yn y Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol fod yn gwbl
annibynnol ar Lywodraeth Cymru, y dylai gael ei benodi gan y Cynulliad
Cenedlaethol ac y dylai reoli dangosyddion datblygu cynaliadwy.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o
dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy
bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 2 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi sylw'r Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ar
rwystredigaethau o ran yr ymdrechion i gynyddu faint o ynni adnewyddadwy a
gaiff ei gynhyrchu ar raddfa gymunedol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys
targedau ar gyfer ynni adnewyddadwy ar raddfa gymunedol wrth gyflwyno adroddiad
ar y Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o
dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy
bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 3 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi sylw'r Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy nad
oes unrhyw gyfeiriad at fynd i'r afael â thlodi tanwydd i wella iechyd a
chyflawniad addysgol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i adfer y Grŵp
Cynghori ar Dlodi Tanwydd gyda chylch gwaith priodol a'r gallu i wneud argymhellion
polisi i'r Llywodraeth er mwyn sicrhau dull mwy integredig o fynd i'r afael â
thlodi tanwydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o
dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy
bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
NDM5568 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi'r cynnydd a gyflawnwyd o safbwynt hyrwyddo
datblygu cynaliadwy yn 2013-14, fel yr amlinellir yn Adroddiad Blynyddol
Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad
Cenedlaethol Cymru ar 23 Mehefin 2014.
Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 24/09/2014
Dyddiad y penderfyniad: 23/09/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad