Manylion y penderfyniad
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Cyllid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Diben yr ymchwiliad oedd edrych ar y modd y mae Cyllid
Cymru yn gweithredu ar hyn o bryd, a'i rôl yn y dyfodol. Bu’r Pwyllgor Cyllid yn ystyried:
- y canlyniadau a gyflawnir gan Gyllid
Cymru, ac a yw'r rheini yn werth yr arian;
- a yw strwythur corfforaethol cyfredol
Cyllid Cymru yn ateb y diben, gan ystyried yn wrthrychol yr effaith o fynd
ar drywydd unrhyw fodelau gweithredu amgen eraill;
- y modd y mae gweithgareddau Cyllid
Cymru yn cyfrannu at ddull gweithredu cyffredinol Llywodraeth Cymru o
safbwynt datblygu economaidd yng Nghymru.
Cynhaliodd y
Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am Cyllid Cymru.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 17.48
NDM5558 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei
ymchwiliad i Cyllid Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mai 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 17/07/2014
Dyddiad y penderfyniad: 16/07/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/07/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad