Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.59
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5493 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi argymhellion adroddiad diweddar y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar rôl Cymru yn y broses o
wneud penderfyniadau yn yr UE.
2. Yn nodi ymhellach bod Cronfeydd Strwythurol
Ewropeaidd yn cael eu dyfarnu i ranbarthau â chynnyrch mewnwladol crynswth o
lai na 75% o gyfartaledd yr Undeb Ewropeaidd ac yn gresynu bod Gorllewin Cymru
a'r Cymoedd yn gymwys am drydedd rownd o gyllid.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod
cynlluniau a gyllidir gan yr UE yn cael eu diweddaru yn fwy cynhwysfawr ac yn
fwy rheolaidd drwy WEFO.
4. Yn gresynu at fethiant dramatig prosiectau
proffil uchel gan gynnwys Genesis 2 Cymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyllid ar gyfer y cyfnod
2014-2020 yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol i sicrhau nad yw Cymru yn gymwys
am bedwaredd rownd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
35 |
45 |
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn cydnabod pa mor bwysig ydyw bod y DU yn parhau i fod yn aelod o’r Undeb
Ewropeaidd i wneud Cymru yn lle mwy llewyrchus, cynaliadwy a diogel.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
45 |
0 |
0 |
45 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pe byddai’r DU yn rhoi’r gorau i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd,
mai dyna fyddai diwedd rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE ac
y byddai'n niweidiol i'r economi.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
10 |
45 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio ar lefel Ewropeaidd i gryfhau rôl
Pwyllgor y Rhanbarthau; a
b) ceisio cael llais cryfach i Gymru yn y Sefydliadau Ewropeaidd
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
45 |
0 |
0 |
45 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM5493 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi argymhellion adroddiad diweddar y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar rôl Cymru yn y broses o
wneud penderfyniadau yn yr UE.
2. Yn nodi ymhellach bod Cronfeydd Strwythurol
Ewropeaidd yn cael eu dyfarnu i ranbarthau â chynnyrch mewnwladol crynswth o
lai na 75% o gyfartaledd yr Undeb Ewropeaidd ac yn gresynu bod Gorllewin Cymru
a'r Cymoedd yn gymwys am drydedd rownd o gyllid.
3. Yn cydnabod pa mor bwysig ydyw bod y DU yn parhau i fod yn aelod o’r
Undeb Ewropeaidd i wneud Cymru yn lle mwy llewyrchus, cynaliadwy a diogel.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod
cynlluniau a gyllidir gan yr UE yn cael eu diweddaru yn fwy cynhwysfawr ac yn
fwy rheolaidd drwy WEFO.
5. Yn gresynu at fethiant dramatig prosiectau
proffil uchel gan gynnwys Genesis 2 Cymru.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyllid ar gyfer y cyfnod
2014-2020 yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol i sicrhau nad yw Cymru yn gymwys
am bedwaredd rownd.
7. Yn nodi pe byddai’r DU yn rhoi’r gorau i fod yn aelod o’r Undeb
Ewropeaidd, mai dyna fyddai diwedd rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau
yn yr UE ac y byddai'n niweidiol i'r economi.
8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio ar lefel Ewropeaidd i gryfhau rôl
Pwyllgor y Rhanbarthau; a
b) ceisio cael llais cryfach i Gymru yn y Sefydliadau Ewropeaidd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
33 |
45 |
Gwrthodwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 01/05/2014
Dyddiad y penderfyniad: 30/04/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 30/04/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad