Manylion y penderfyniad

Blaenraglen Waith

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Taliadau (2010 - 2020)

Statws: Er gwybodaeth

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Bydd Bwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn trafod ac yn adolygu ei flaenraglen waith yn rheolaidd. Gellir nodi'r camau sy'n gysylltiedig â blaenraglen waith y Bwrdd ym mhob darn unigol o waith ac yng nghyflwyniad y Cadeirydd.

Penderfyniadau:

43.     Nododd y Bwrdd flaenraglen waith ddrafft y Bwrdd i’w thrafod ganddo.

 

44.     Ar ddiwedd y cyfarfod diolchodd y Cadeirydd i’r Clerc sy’n gorffen, Carys Eyton Evans, am ei gwasanaeth a’i chymorth arbennig iddo ef a’r Bwrdd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a dymunwyd yn dda iddi at y dyfodol.

 

Cadarnhawyd y byddai’r Bwrdd yn cynnal ei gyfarfod nesaf ar 18 Hydref 2013.

 

Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd

Gorffennaf 2013

Dyddiad cyhoeddi: 27/08/2014

Dyddiad y penderfyniad: 21/06/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/06/2013 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020)

Dogfennau Cefnogol:

  • Cyfyngedig