Manylion y penderfyniad
Datganiad gan Darren Millar: Cyflwyno Bil arfaethedig Aelod - Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Bil wedi methu
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Bil Aelod Cynulliad a gyflwynwyd gan Darren Millar AC.
Roedd Darren Millar AC yn llwyddiannus mewn balot deddfwriaethol a gynhaliwyd
ar 24 Ebrill 2013. Rhoddodd y Cynulliad ganiatâd iddo fwrw ymlaen â’r Bil ar 19
Mehefin 2013. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi gofyn i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a
Llywodraeth Leol graffu ar y Bil.
Gwybodaeth
am y Bil
Prif ddibenion y Bil, wrth ei gyflwyno, oedd
moderneiddio'r gyfundrefn drwyddedu ar gyfer safleoedd carafanau gwyliau. Mae'n
ceisio rhoi dyletswyddau a phwerau gorfodi newydd i awdurdodau lleol fel y
gallant sicrhau bod safleoedd carafanau gwyliau yn ddiogel ac yn cael eu
rheoli'n dda, ac i ymdrin yn gadarn ag achosion o dorri amodau trwyddedau drwy
gyfuniad o gamau gorfodi statudol a chosbau ariannol, er mwyn bod yn ataliad
effeithiol.
Mae'r Bil hefyd yn ceisio rhoi terfyn ar yr arfer o
ddefnyddio carafanau gwyliau fel cartrefi preswyl parhaol drwy ei gwneud yn
ofynnol i berchnogion carafanau a meddianwyr hirdymor ddangos bod eu prif
breswylfa mewn man arall, a thrwy roi pwerau i awdurdodau lleol ddelio â
meddianwyr carafanau sy'n methu’r prawf hwn.
Bydd hefyd yn rhoi hawl gyfreithiol i berchnogion
carafanau a meddianwyr hirdymor gael datganiad ysgrifenedig o'r telerau ac
amodau sy’n sail i’w meddiant o’r llain, a bydd yn rhagnodi nifer o delerau
ymhlyg a fydd yn berthnasol i bob cytundeb carafanau gwyliau.
Cyfnod
presennol
Methodd y Bil yn niwedd y Pedwerydd Cynulliad gan na
chafodd ei basio cyn diwedd y Cynulliad y’i cyflwynwyd ynddo (Rheol Sefydlog
26.77).
Cofnod
o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob
cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
|
|
|
|
|
Gohebiaeth gan yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil: 29
Mai 2014 (PDF 232KB) Adroddiad Cyfnod 1
y Pwyllgor (PDF 622KB)
|
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 15.14
Dyddiad cyhoeddi: 20/03/2014
Dyddiad y penderfyniad: 19/03/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/03/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad