Manylion y penderfyniad
Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2012-13
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.26
NDM5442
Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros
Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2012-13.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw safonau addysg yng Nghymru wedi gwella, ar
y cyfan, a bod:
a) y gyfran o ysgolion uwchradd sydd wedi cael eu brandio yn
‘anfoddhaol’ wedi cynyddu o 14% i 23%;
b) ysgolion rhagorol yn parhau i fod yn lleiafrif bychan; ac
c) bod angen cynnal arolygiadau dilynol ar ddwy ran o dair o
ysgolion uwchradd, a hanner yr ysgolion cynradd.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud
mwy i hybu morâl athrawon yn ysgolion Cymru.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu argymhelliad Estyn y dylai mynd i’r
afael ag effeithiau tlodi fod yn ganolog i gynllunio ysgol-gyfan a bod yn rhaid
i’r holl staff ddeall y rôl sydd ganddynt i’w chwarae, ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i amlinellu'r camau y mae'n eu cymryd i wreiddio ymwybyddiaeth o'r Grant
Amddifadedd Disgyblion ymhlith holl aelodau staff ysgolion i sicrhau y caiff y
cyllid hwn ei ddefnyddio yn y modd mwyaf effeithiol i liniaru ar effaith tlodi
mewn ysgolion.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at ganfyddiadau Estyn nad yw ‘ysgolion
prif ffrwd bob amser yn darparu gwybodaeth o ansawdd da na gwybodaeth amserol
i’r UCDau am anghenion dysgu disgyblion’ ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
ddatblygu dulliau monitro mwy unigoledig er mwyn cael ‘darlun clir o alluoedd,
anghenion a chynnydd blaenorol disgyblion’.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at ganfyddiad Estyn bod ‘Llai na
hanner ysgolion uwchradd yn dda neu’n well, ac mae’r gyfran sy’n anfoddhaol wedi
cynyddu o un o bob saith ysgol i un o bob pedair’.
Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu mai arweinwyr ac athrawon rhagorol yw’r
allwedd i godi safonau mewn ysgolion.
Derbyniwyd gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod safonau yn cael eu codi mewn modd mwy
cynaliadwy pan fydd ysgolion yn cydweithio yn hytrach na chystadlu.
Derbyniwyd gwelliant 7 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5442
Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi
dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2012-13.
2. Yn gresynu nad yw safonau addysg yng Nghymru wedi gwella,
ar y cyfan, a bod:
a) y gyfran o ysgolion uwchradd sydd wedi cael eu brandio yn
‘anfoddhaol’ wedi cynyddu o 14% i 23%;
b) ysgolion rhagorol yn parhau i fod yn lleiafrif bychan; ac
c) bod angen cynnal arolygiadau dilynol ar ddwy ran o dair o
ysgolion uwchradd, a hanner yr ysgolion cynradd.
3. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud
mwy i hybu morâl athrawon yn ysgolion Cymru.
4. Yn croesawu argymhelliad Estyn y dylai mynd
i’r afael ag effeithiau tlodi fod yn ganolog i gynllunio ysgol-gyfan a bod yn
rhaid i’r holl staff ddeall y rôl sydd ganddynt i’w chwarae, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i amlinellu'r camau y mae'n eu cymryd i wreiddio ymwybyddiaeth
o'r Grant Amddifadedd Disgyblion ymhlith holl aelodau staff ysgolion i sicrhau
y caiff y cyllid hwn ei ddefnyddio yn y modd mwyaf effeithiol i liniaru ar
effaith tlodi mewn ysgolion.
5. Yn gresynu at ganfyddiadau Estyn nad yw
‘ysgolion prif ffrwd bob amser yn darparu gwybodaeth o ansawdd da na gwybodaeth
amserol i’r UCDau am anghenion dysgu disgyblion’ ac yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ddatblygu dulliau monitro mwy unigoledig er mwyn cael ‘darlun clir o
alluoedd, anghenion a chynnydd blaenorol disgyblion’.
6. Yn gresynu at ganfyddiad Estyn bod ‘Llai na
hanner ysgolion uwchradd yn dda neu’n well, ac mae’r gyfran sy’n anfoddhaol
wedi cynyddu o un o bob saith ysgol i un o bob pedair’.
7. Yn credu mai arweinwyr ac athrawon rhagorol
yw’r allwedd i godi safonau mewn ysgolion.
8. Yn credu bod safonau yn cael eu codi mewn modd
mwy cynaliadwy pan fydd ysgolion yn cydweithio yn hytrach na chystadlu.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 04/03/2014
Dyddiad y penderfyniad: 04/03/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/03/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad