Manylion y penderfyniad
P-04-422: Ffracio
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: I'w ystyried
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
P-04-422 : Ffracio
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Gweinidog yr
Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i lunio Datganiad Polisi Cynllunio Mwynau
Interim Gweinidogol, yn ogystal â nodyn cyngor technegol newydd, i gryfhau’r
egwyddor ragofalus ynglŷn
â cheisiadau cynllunio ar
gyfer olew a nwy ar y tir, gan gynnwys ffracio.
Rhaid dileu pob amheuaeth wyddonol resymol bod risg o effeithiau
niweidiol, a rhaid rhoi’r ystyriaeth gryfaf i’r angen brys i liniaru’r newid yn
yr hinsawdd.
Prif ddeisebydd: Gareth Clubb
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y
Pwyllgor: 2 Hydref 2012
Nifer y llofnodion: 914
Penderfyniadau:
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch
y ddeiseb a chutunodd i;
·
ysgrifennu
at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd i holi faint o swyddogion sy’n ‘arbenigwyr’ ar ffracio a lefel
yr arbenigedd sydd ar gael
i Lywodraeth Cymru;
·
ysgrifennu
at y Pwyllgor Amgylchedd a chynaliadwyedd yn holi am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y sesiwn dystiolaeth ddiweddar ar nwy
anghonfensiynol; ac
·
ysgrifennu
at y Pwyllgor Dethol Materion Cymreig yn tynnu sylw
at ystyriaethau’r Pwyllgor o’r materion hyn.
Dyddiad cyhoeddi: 18/07/2013
Dyddiad y penderfyniad: 16/07/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad
Dogfennau Cefnogol: