Manylion y penderfyniad
P-04-456 Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: I'w ystyried
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Rydym ni, sydd
wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth
Cymru:
i. I roi terfyn ar wahaniaethu yn erbyn dioddefwyr dementia yng Nghymru sy’n gwneud cais am Arian Gofal Parhaus y
GIG, drwy ganiatáu i’r categori
gwybyddiaeth o angen (a elwir yn ‘barth’) godi
i lefel ‘Difrifol’ yn y fersiwn Gymraeg o’r Offeryn Gwneud Penderfyniadau. Byddai
hyn yn ei gwneud yn gydnaws â’r fersiwn Saesneg; a
ii. Bod Byrddau Iechyd Lleol uniongyrchol yn gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Arian
Gofal Parhaus y GIG, yn gywir, o ran cymhwysedd cleifion a heb ystyried
cyfyngiadau cyllidebol.
Prif ddeisebydd: Helen Jones
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 19 Chwefror 2013
Nifer y llofnodion: 1413
Penderfyniadau:
Trafododd yr Aelodau
y sesiwn dystiolaeth ar 2 Gorffennaf, a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gan anfon copi
at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gwneud cais
i gynnwys y deisebydd mewn trafodaethau â rhanddeiliaid ynghylch datblygu’r fframwaith a thynnu sylw at y materion a godwyd yn y dystiolaeth lafar.
Dyddiad cyhoeddi: 18/07/2013
Dyddiad y penderfyniad: 16/07/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad
Dogfennau Cefnogol: