Manylion y penderfyniad

Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Caiff Aelodau’r Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar i Gomisiynwyr y Cynulliad am unrhyw fater sy’n rhan o’u meysydd cyfrifoldeb.

Bydd y Comisiynwyr yn ateb cwestiynau bob pedair wythnos y bydd y Cynulliad yn cyfarfod mewn Cyfarfod Llawn. Caiff cwestiynau llafar eu hateb yn ystod sesiwn gwestiynau ddynodedig yn  y Cyfarfod Llawn. 

Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu ar enwau’r Aelodau a gaiff gyflwyno’r cwestiynau. Gellir cynnwys enw unrhyw Aelod yn y balot.

Ar ôl dewis yr enwau, rhaid i’r Aelodau gyflwyno’u cwestiynau o leiaf bum diwrnod cyn y disgwylir iddynt gael eu hateb. Caiff y drefn y gofynnir y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn ei phennu ar hap gan gyfrifiadur.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.14

Gofynnwyd y ddau gwestiwn.

Dyddiad cyhoeddi: 23/05/2013

Dyddiad y penderfyniad: 22/05/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/05/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad