Manylion y penderfyniad
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cynhaliodd y Pwyllgor
Menter a Busnes ymchwiliad i gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a
meysydd awyr Cymru. Roedd cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:
- pa mor bwysig yw prif borthladdoedd a meysydd awyr
Cymru, o ran economïau eu rhanbarthau eu hunain a Chymru gyfan?
- pa ffactorau sy’n cyfyngu ar wireddu potensial prif
borthladdoedd a meysydd awyr Cymru; pa gyfleoedd sydd ar gael i
ddatblygu’r potensial hwn; a sut y gellir eu gwireddu?
- pa mor effeithiol yw polisïau Llywodraeth Cymru o ran
cefnogi’r gwaith o ddatblygu prif borthladdoedd a meysydd awyr Cymru?
Materion allweddol
Roedd y materion y bu’r Pwyllgor yn eu hystyried fel rhan o’r cylch gorchwyl
hwn yn cynnwys:
- pa ran y mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn
ei chwarae o ran hwyluso’r gwaith o ddatblygu porthladdoedd a meysydd awyr
Cymru?
- pa ffactorau sydd wedi cyfrannu at ddirywiad busnes
ym Maes Awyr Caerdydd?
- pa mor effeithiol yw polisïau Llywodraeth Cymru, yn
bennaf ym meysydd trafnidiaeth, datblygu economaidd a pholisi cynllunio
defnydd tir, o ran cefnogi’r gwaith o ddatblygu porthladdoedd a meysydd
awyr Cymru?
- sut y gall Llywodraeth Cymru ddatblygu cyfleoedd
economaidd, er enghraifft o dwristiaeth, masnachu mewnol, cludo nwyddau
ac, yn achos porthladdoedd, cyfleoedd sy’n cynnwys y diwydiannau ynni ac
ynni adnewyddadwy? Pa ran y mae porthladdoedd a meysydd awyr, yn arbennig
Maes Awyr Caerdydd, yn ei chwarae yn y prif sectorau a nodwyd gan
Lywodraeth Cymru?
- pa mor effeithiol yw seilwaith a rhyng-gysylltedd o
ran cynorthwyo i ddatblygu porthladdoedd a meysydd awyr Cymru?
- gofio bod polisïau sy’n ymwneud â phorthladdoedd a
meysydd awyr yn faterion a gadwyd yn ôl, pa mor effeithiol y mae
Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU er budd Cymru?
- pa effaith a gaiff rheoliadau cymorth gwladwriaethol
yr UE ar allu Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth, a pha gyfleoedd y mae
polisi porthladdoedd a meysydd awyr yr UE yn eu rhoi i gefnogi’r gwaith
datblygu yng Nghymru?
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16:11
NDM5053 Nick
Ramsay (Mynwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
Yn nodi adroddiad
y Pwyllgor Menter a Busnes: Cysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru, a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf 2012.
Noder: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Medi 2012.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig
hwn.
Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 04/10/2012
Dyddiad y penderfyniad: 03/10/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/10/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad