Manylion y penderfyniad
Dadl ar Wasanaethau Mamolaeth
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies
(Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 1 a rhoi
yn ei le:
Yn cydnabod cyfrifoldeb
Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gwasanaethau
mamolaeth yng Nghymru: ac
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies
(Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt
2:
Y byddai llai o gyfleoedd i gael Gwasanaethau Mamolaeth dan arweiniad meddygon
ymgynghorol yn arwain at fwy o risg i famau a babanod.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham
(Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y pryder
sylweddol ymysg y cyhoedd ynghylch dyfodol gwasanaethau mamolaeth yn y Gogledd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham
(Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i warantu darpariaeth gwasanaethau mamolaeth dan arweiniad
meddygon ymgynghorol mewn ysbytai cyffredinol
dosbarth yn y Gogledd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - William Graham
(Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pwysigrwydd
mynediad prydlon at wasanaethau mamolaeth brys mewn ardaloedd
gwledig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - William Graham
(Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pwysigrwydd
gwasanaethau mamolaeth a ddarperir i gleifion o Gymru gan ysbytai
yn Lloegr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant
6.
Gwelliant 7 - William Graham
(Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gynnal a
chadw llefydd ar gyfer hyfforddiant
bydwreigiaeth yng Nghymru, er mwyn
darparu lefel gynaliadwy o ddatblygiad proffesiynol ar gyfer y rheini sy’n gweithio yn
y gwasanaethau mamolaeth yn GIG Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant
7.
Gwelliant 8 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi nad
yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynllun
cyflenwi terfynol ar gyfer gwasanaethau
mamolaeth er mwyn ei drafod,
ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun terfynol ar sut
y bydd yn gweithredu ei gweledigaeth
ar gyfer gwasanaethau mamolaeth, yn cynnwys nodau
clir a chanlyniadau mesuradwy, er mwyn
ei drafod.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant
8.
Gwelliant 9 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) Amlinellu’r ffordd y
mae’n bwriadu dal Byrddau Iechyd Lleol i gyfrif a’r mesurau y bydd
yn eu cymryd
i sicrhau bod BILl yn cyrraedd targedau
mamolaeth yn y dyfodol; a
b) Gweithio gyda BILl wrth recriwtio
a chadw staff meddygol fel bod pob BILl:
(i) bodloni’r safon
Birthrate plus ar gyfer trefniadau staffio bydwragedd;
(ii) yn cyflawni’r lefelau staffio a argymhellir gan Goleg Brenhinol y Nyrsys ar gyfer
nyrsio gynaecolegol; a
(iii) yn meddu ar wasanaeth mamolaeth
sy’n bodloni’r safonau ansawdd cenedlaethol drwy’r amser.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant
9.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM4796 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gwasanaethau
mamolaeth yng Nghymru: ac
2. Yn nodi bod Llywodraeth
Cymru yn credu:
a) y dylai gwasanaethau mamolaeth ledled Cymru gael eu trefnu
i ddiwallu anghenion menywod a'u babanod;
b) y dylai popeth posibl
gael ei wneud
i ddiogelu a gwella iechyd menywod a'u babanod; ac
c) y dylai beichiogrwydd a geni plant fod yn brofiad diogel
sy'n gwella ac yn cyfoethogi bywyd.
3. Yn cydnabod y pryder
sylweddol ymysg y cyhoedd ynghylch dyfodol gwasanaethau mamolaeth yn y Gogledd.
4. Yn cydnabod pwysigrwydd
mynediad prydlon at wasanaethau mamolaeth brys mewn ardaloedd
gwledig.
5. Yn cydnabod pwysigrwydd
gwasanaethau mamolaeth a ddarperir i gleifion o Gymru gan ysbytai
yn Lloegr.
6. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gynnal a chadw llefydd ar gyfer
hyfforddiant bydwreigiaeth yng Nghymru, er
mwyn darparu lefel gynaliadwy o ddatblygiad proffesiynol ar gyfer y rheini
sy’n gweithio yn y gwasanaethau mamolaeth yn GIG Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
44 |
11 |
0 |
55 |
Dyddiad cyhoeddi: 21/09/2011
Dyddiad y penderfyniad: 20/09/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/09/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad