Manylion y penderfyniad
Glastir inquiry - Oral evidence
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Glastir: Cylch Gorchwyl
Mae’r
Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi penderfynu cynnal ymchwiliad i
Glastir, sef cynllun amaeth-amgylcheddol Llywodraeth Cymru.
Diben
yr ymchwiliad yw:
- asesu’r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru wrth ddarparu’r cynllun;
- casglu safbwyntiau rhanddeiliaid am y cynllun a sut y gellid ei wella;
- cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru am y modd y caiff y cynllun ei
ddarparu.
Bydd
y Pwyllgor yn ystyried:
- pa gynnydd a wnaed gan
Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion arolwg annibynnol Rees Roberts o
Glastir ac a yw’r rheini wedi bod yn effeithiol?
- pa gynnydd a wnaed gan
Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion yr adroddiad ‘Hwyluso'r Drefn’,
fel y mae'n ymwneud â Glastir?
- a oes unrhyw bethau sy’n dal yn rhwystro’r diwydiant rhag cael
mynediad i’r cynllun, a sut y gellid mynd i’r afael â’r rhain?
- beth yw safbwyntiau rhanddeiliaid am
wahanol elfennau’r cynllun?
- y
trefniadau cyllido ar gyfer y cynllun, ac yn benodol:
-a
oes digon o hyblygrwydd rhwng y cyllido ar gyfer gwahanol elfennau’r cynllun?
-a
yw’r costau ar gyfer y gwahanol ddewisiadau sydd ar gael dan Elfen Cymru Gyfan
a’r Elfen wedi’i Thargedu yn adlewyrchu cyflwr y farchnad?
-a
cyllid sydd ar gael i ffermwyr mewn ardaloedd llai ffafriol sy’n dod i mewn i’r
cynllun.
Penderfyniadau:
2.1 Atebodd y tystion y cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ar Glastir.
2.2 Cytunodd Sue Evans i ddarparu rhagor o wybodaeth ar y cyfyngiadau uchaf
a allai rwystro mynediad i’r cynllun.
Dyddiad cyhoeddi: 29/05/2012
Dyddiad y penderfyniad: 17/05/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/05/2012 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad
Dogfennau Cefnogol: