Manylion y penderfyniad
Debate on The Welsh Government's Food Strategy - the way forward
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16:02.
NDM4966 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:
a) ddatblygu’i gweledigaeth
uchelgeisiol ar gyfer bwyd yng Nghymru;
b) adolygu ac adnewyddu’r strategaeth fwyd bresennol;
c) cefnogi’r diwydiant
cynhyrchu bwyd drwy ddatblygu, hyrwyddo a marchnata bwyd o Gymru, a chryfhau
cysylltiadau’r gadwyn gyflenwi.
Mae Strategaeth Fwyd Llywodraeth Cymru – Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru 2010:2020
ar gael drwy’r ddolen ganlynol:
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Yn is-bwynt 1a), dileu’r gair “uchelgeisiol”.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
36* |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant
1.
*Cafodd canlyniadau’r bleidlais hon eu cywiro ar 14 Mai 2012 i
adlewyrchu Cofnod y Trafodion.
Gwelliant 2 -
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi gweithrediad llawn Pecyn Llaeth yr UE
oni ellir dod i gytundeb gwirfoddol ar god ymarfer ar gyfer contractau llaeth
rhwng y partïon perthnasol yn y gadwyn gyflenwi llaeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
35 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant
2.
Ni chofrestrwyd pleidlais Ann Jones ar welliant 2 oherwydd nam technegol.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn dathlu bod gan gynnyrch o Gymru enw da o’r radd flaenaf ac yn annog
siopwyr i werthu rhagor o fwyd o Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant
3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r cyfraniad pwysig cynyddol a wneir gan fwyd o Gymru i’r sector
twristiaeth gynaliadwy, yn enwedig drwy feithrin ‘naws am le’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant
4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pwysigrwydd bwyd yn eu tymor ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog
defnyddwyr i brynu rhagor o gynnyrch yn eu tymor er mwyn hybu bwyd o Gymru a
gwella cynaliadwyedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant
5.
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth
benderfyniad Llywodraeth Cymru i israddio’r portffolio Materion Gwledig a'r effaith
negyddol y gallai hyn ei chael ar ei gallu i gyflawni’r strategaeth fwyd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4966 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:
a) ddatblygu’i gweledigaeth
uchelgeisiol ar gyfer bwyd yng Nghymru;
b) adolygu ac adnewyddu’r
strategaeth fwyd bresennol;
c) cefnogi’r diwydiant
cynhyrchu bwyd drwy ddatblygu, hyrwyddo a marchnata bwyd o Gymru, a chryfhau
cysylltiadau’r gadwyn gyflenwi;
d) yn dathlu bod gan gynnyrch o Gymru enw da o’r radd flaenaf ac yn annog
siopwyr i werthu rhagor o fwyd o Gymru;
e) yn croesawu’r cyfraniad pwysig cynyddol a wneir gan fwyd o Gymru i’r
sector twristiaeth gynaliadwy, yn enwedig drwy feithrin ‘naws am le’;
f) yn nodi pwysigrwydd bwyd yn eu tymor ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
annog defnyddwyr i brynu rhagor o gynnyrch yn eu tymor er mwyn hybu bwyd o
Gymru a gwella cynaliadwyedd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
13 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 02/05/2012
Dyddiad y penderfyniad: 01/05/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 01/05/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad