Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15:58.
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau
o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM4954 William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei pholisïau i sicrhau bod mwy o bwyslais yn cael ei roi ar rymuso cymunedau lleol;
2. Yn cydnabod y rhan y byddai rhewi’r Dreth Gyngor ledled Cymru wedi’i chwarae o ran grymuso aelwydydd yn ariannol;
3. Yn nodi’r rhan y byddai gwella rhyddhad ardrethi busnesau bach yn ei chwarae o ran grymuso busnesau ledled Cymru, gan ganiatáu iddynt ehangu a chyflogi staff newydd;
4. Yn annog llywodraeth leol i weithredu mewn ffordd sy’n dryloyw, yn agored ac yn atebol, a fydd yn annog cymunedau lleol i gymryd mwy o ran mewn democratiaeth leol;
5. Yn nodi y bydd ariannu ysgolion yn uniongyrchol yn eu grymuso i osod eu blaenoriaethau eu hunain; a
6. Yn nodi ymhellach y rhan y gall polisi cynllunio datganoledig ei chwarae o ran grymuso cymunedau.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
40 |
52 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:
‘ac yn galw am ystyried cyflwyno Bil Hawliau Cymunedol mewn unrhyw adolygiad er mwyn rhoi pwerau ychwanegol i gymunedau lleol yn y system gynllunio, datblygu tai ac amgylchedd lleol’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
9 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwyntiau 2, 3 a 4, rhoi’r pwyntiau canlynol yn eu lle, ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn.
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi 1.3 y cant yn fwy o gyllid i awdurdodau lleol nag a wnaed yn Lloegr, ac y bydd hynny’n grymuso cynghorau Cymru i rewi’r dreth gyngor, os dymunant
Yn nodi darpariaethau Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, sy’n ceisio cryfhau atebolrwydd ac ymgysylltiad mewn democratiaeth leol yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
17 |
53 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
‘Yn credu y byddai agwedd gynaliadwy at gadw’r dreth gyngor yn isel, a ellid ei chyflawni drwy drefniadau llywodraethu cyfrifol gan gynghorau lleol yn hytrach na ffrydiau cyllido o’r brig i lawr, yn helpu i rymuso aelwydydd ledled Cymru yn ariannol’.
Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru)
Dileu pwynt 2
Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 4 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 3:
‘ond yn credu fel sail i hyn bod yn rhaid diwygio ardrethi busnes yn ehangach, gan gynnwys rhoi terfyn ar godiadau bob blwyddyn sy’n rhy uchel.’
Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 5 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 4, ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
Yn credu y byddai cymunedau lleol yn cymryd mwy o ran mewn democratiaeth leol petai llywodraeth leol yn cael ei chryfhau drwy:
a) cyflwyno Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy mewn etholiadau lleol;
b) cyflwyno pwer cymhwysedd cyffredinol i rymuso cynghorau lleol;
c) lleihau nifer y rheolaethau o’r brig i lawr ar awdurdodau lleol, fel dyletswyddau statudol; a
d) archwilio’r enghreifftiau gorau a gwaethaf o lywodraeth agored a thryloyw ledled Cymru er mwyn rhannu’r arfer gorau hwn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
39 |
53 |
Gwrthodwyd
gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru)
Dileu pwynt 5
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
12 |
53 |
Derbyniwyd
gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 5:
‘ac yn galw am adolygiad cyflawn o atebolrwydd ysgolion, gan archwilio’n benodol atebolrwydd lleol ac arweinyddiaeth briodol i gyrff llywodraethu’
Gan fod gwelliant 7 wedi’i dderbyn, cafodd
gwelliant 8 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 9 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru)
Dileu pwynt 6
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
17 |
53 |
Derbyniwyd
gwelliant 9.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4954 William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei pholisïau i sicrhau bod mwy o bwyslais yn cael ei roi ar rymuso cymunedau lleol.
2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi 1.3 y cant yn fwy o gyllid i awdurdodau lleol nag a wnaed yn Lloegr, ac y bydd hynny’n grymuso cynghorau Cymru i rewi’r dreth gyngor, os dymunant.
3. Yn nodi darpariaethau Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, sy’n ceisio cryfhau atebolrwydd ac ymgysylltiad mewn democratiaeth leol yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
17 |
53 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 29/03/2012
Dyddiad y penderfyniad: 28/03/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/03/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad