Manylion y penderfyniad
Debate: Draft Children's Rights Scheme for approval under the Rights of Children and Young Persons (Wales) Measure 2011
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.55
NDM4950 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 3(6) o Fesur
Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011:
Yn cymeradwyo’r Cynllun Hawliau Plant drafft a osodwyd gerbron y Cynulliad
ar 20 Mawrth 2012.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw’r cynllun yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn adrodd i’r
Cynulliad Cenedlaethol yn flynyddol ar gydymffurfio â’i dyletswydd i roi sylw
dyledus i’r CCUHP.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw’r cynllun yn cynnig cyfleoedd cryfach ar gyfer herio’n
briodol os ystyrir nad yw Gweinidogion Cymru wedi cydymffurfio â’u dyletswydd i
roi sylw dyledus i’r CCUHP.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad
yw’r Cynllun yn darparu ar gyfer mecanwaith adrodd cadarnach sy’n mynnu bod
Gweinidogion Cymru’n adrodd yn amlach i’r Cynulliad.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig:
NDM4950 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 3(6) o Fesur
Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011:
Yn cymeradwyo’r Cynllun Hawliau Plant drafft a osodwyd gerbron y Cynulliad
ar 20 Mawrth 2012.
Yn gresynu nad yw’r cynllun yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn adrodd i’r
Cynulliad Cenedlaethol yn flynyddol ar gydymffurfio â’i dyletswydd i roi sylw
dyledus i’r CCUHP.
Yn gresynu nad yw’r cynllun yn cynnig cyfleoedd cryfach ar gyfer herio’n
briodol os ystyrir nad yw Gweinidogion Cymru wedi cydymffurfio â’u dyletswydd i
roi sylw dyledus i’r CCUHP.
Yn gresynu nad
yw’r Cynllun yn darparu ar gyfer mecanwaith adrodd cadarnach sy’n mynnu bod
Gweinidogion Cymru’n adrodd yn amlach i’r Cynulliad.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 28/03/2012
Dyddiad y penderfyniad: 27/03/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 27/03/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad