Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.47.
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM4946 William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd llywodraeth leol yn gweithredu mewn modd sy’n dryloyw ac yn atebol i’r bobl y mae’n eu cynrychioli;
2. Yn credu y byddai cyflwyno refferenda ar gynnydd arfaethedig uwch na 3.5 y cant yn y dreth gyngor flynyddol yn gwella tryloywder, atebolrwydd a democratiaeth yng Nghymru; a
3. Yn croesawu camau a gymerir gan rai awdurdodau lleol yng Nghymru i gyhoeddi pob gwariant dros £500.00, ac yn annog pob awdurdod lleol yng Nghymru i sicrhau bod y wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2 ac yn ei le rhoi:
Yn cydnabod bod pennu’r dreth gyngor yn fater i awdurdodau lleol unigol a bod y tryloywder a’r atebolrwydd yn cael eu cynnal drwy’r blwch pleidleisio bob pedair blynedd.’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
17 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru)
Ym mhwynt 2 dileu popeth cyn ‘yn gwella’ a rhoi yn ei le ‘Yn credu y byddai cyflwyno system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar lefel llywodraeth leol’
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Mewnosod ar ddiwedd pwynt 2 ‘ond yn credu, wrth i deuluoedd cyffredin wynebu cyfnod anodd, nad yw cost uwch cynnal refferenda lleol yn flaenoriaeth’.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 3 ac yn ei le rhoi:
‘Yn croesawu camau a gymerir gan gynghorau yng Nghymru i sicrhau mwy o dryloywder ond yn cydnabod bod angen gwneud yn siwr fod y beichiau gweinyddol a roddir ar awdurdodau lleol yn sgîl mwy o dryloywder yn gymesur â hynny.’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
17 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4946 William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd llywodraeth leol yn gweithredu mewn modd sy’n dryloyw ac yn atebol i’r bobl y mae’n eu cynrychioli;
2. Yn cydnabod bod pennu’r dreth gyngor yn fater i awdurdodau lleol unigol a bod y tryloywder a’r atebolrwydd yn cael eu cynnal drwy’r blwch pleidleisio bob pedair blynedd; a
3. Yn croesawu camau a gymerir gan gynghorau yng Nghymru i sicrhau mwy o dryloywder ond yn cydnabod bod angen gwneud yn siwr fod y beichiau gweinyddol a roddir ar awdurdodau lleol yn sgîl mwy o dryloywder yn gymesur â hynny.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
13 |
50 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 22/03/2012
Dyddiad y penderfyniad: 21/03/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/03/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad