Manylion y penderfyniad
Debate: The Welsh Government's strategic agenda for science and innovation - "Science for Wales"
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.27
NDM4942 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
Nodi’r agenda strategol
newydd ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd yng Nghymru – Gwyddoniaeth i Gymru.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Gresynu mai dim ond
3.3 y cant oedd cyfran Cymru o gyllid cyngor ymchwil y DU yn 2009/10.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Gresynu wrth y ‘lleihad yn nifer y disgyblion sy’n astudio pynciau STEM a’r
ffaith nad yw nifer y disgyblion sy’n astudio’r pynciau hyn ar gyfer Safon Uwch
wedi cynyddu yn unol â nifer y disgyblion sy’n cofrestru ar gyfer arholiadau
Safon Uwch yn gyffredinol’.
Derbyniwyd gwelliant
2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen i annog pobl dalentog iawn i
fynd i ddysgu pynciau STEM.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 4 -
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Galw ar Lywodraeth Cymru i annog rhagor o fusnesau yng Nghymru i fuddsoddi
mewn ymchwil a datblygu mentrau busnes ac i gael gafael ar gyllid Rhaglen
Fframwaith yr UE i wneud hyn.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Galw ar Lywodraeth Cymru i gynhyrchu cynllun cyflenwi yn amlinellu pwyntiau gweithredu allweddol ac yn pennu targedau diffiniadwy ar gyfer gwella gwyddoniaeth ac arloesedd.
Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Galw ar y
Gweinidog Addysg a Sgiliau i egluro’r sefyllfa o ran gwyddoniaeth fel dangosydd
pwnc craidd mewn ysgolion.
Derbyniwyd gwelliant
6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4942 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
Nodi’r agenda strategol newydd ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd yng
Nghymru – Gwyddoniaeth i Gymru.
Gresynu mai dim ond 3.3 y cant oedd cyfran Cymru o gyllid cyngor ymchwil y
DU yn 2009/10.
Gresynu wrth y ‘lleihad yn nifer y disgyblion sy’n astudio pynciau STEM a’r
ffaith nad yw nifer y disgyblion sy’n astudio’r pynciau hyn ar gyfer Safon Uwch
wedi cynyddu yn unol â nifer y disgyblion sy’n cofrestru ar gyfer arholiadau
Safon Uwch yn gyffredinol’.
Galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen i annog pobl dalentog iawn i
fynd i ddysgu pynciau STEM.
Galw ar Lywodraeth Cymru i annog rhagor o fusnesau yng Nghymru i fuddsoddi
mewn ymchwil a datblygu mentrau busnes ac i gael gafael ar gyllid Rhaglen
Fframwaith yr UE i wneud hyn.
Galw ar Lywodraeth Cymru i gynhyrchu cynllun cyflenwi yn amlinellu pwyntiau gweithredu allweddol ac yn pennu targedau diffiniadwy ar gyfer gwella gwyddoniaeth ac arloesedd.
Galw ar y
Gweinidog Addysg a Sgiliau i egluro’r sefyllfa o ran gwyddoniaeth fel dangosydd
pwnc craidd mewn ysgolion.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Dyddiad cyhoeddi: 21/03/2012
Dyddiad y penderfyniad: 20/03/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/03/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad