Manylion y penderfyniad
Debate: Housing Benefit Reform
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.15
NDM4934 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at yr effaith y bydd newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU
i fudd-dal tai yn ei chael ar bobl dlotaf Cymru;
2. Yn nodi’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i’w wneud gyda
rhanddeiliaid i helpu pobl i ymdopi â’r newidiadau.
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
[Os caiff gwelliant
1 ei dderbyn, caiff gwelliannau 2 a 4 eu dad-ddethol]
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i fudd-dal tai, sy'n
angenrheidiol er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg a gafodd ei adael gan y
Llywodraeth Lafur flaenorol.
2. Yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i gynnwys cymorth tai mewn Credyd
Cynhwysol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
38 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1 ‘gan gynnwys gweithwyr sydd ar gyflog isel’.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
13 |
4 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
2. Yn nodi’r adroddiad gan Cuts Watch Cymru ‘Cymru ar y Dibyn’ a’i
argymhellion yng nghyswllt y newidiadau i fudd-dal tai.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
42 |
13 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 -
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2:
‘, ond yn credu ei bod yn amser rhoi'r gorau i siarad â Rhanddeiliaid ac yn
amser dechrau modelau cyflenwi da'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
38 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod ymgynghoriad Llywodraeth flaenorol y DU ar Fudd-dal Tai yn
dangos mewn rhai ardaloedd bod Budd-dal Tai yn gallu cefnogi cwsmeriaid i fyw
mewn llety na all nifer o bobl sydd mewn gwaith ei fforddio, ac yn dadlau bod
angen rhagor o ddiwygiadau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
38 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant
5.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4934 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at yr effaith y bydd newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU
i fudd-dal tai yn ei chael ar bobl dlotaf Cymru gan gynnwys gweithwyr sydd ar gyflog isel.
2. Yn nodi’r adroddiad gan Cuts Watch Cymru ‘Cymru ar y Dibyn’ a’i
argymhellion yng nghyswllt y newidiadau i fudd-dal tai.
3. Yn nodi’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i’w wneud gyda
rhanddeiliaid i helpu pobl i ymdopi â’r newidiadau.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
17 |
55 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 14/03/2012
Dyddiad y penderfyniad: 13/03/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/03/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad