Manylion y penderfyniad
Debate on The Draft International Health Framework
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.00.
NDM4922 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ystyried y Fframwaith Iechyd Rhyngwladol drafft, a anfonwyd at yr Aelodau
drwy e-bost ar 20 Chwefror 2012; a
2. Yn nodi’r hyn sydd yn y Fframwaith ynghylch:
a) cryfhau cysylltiadau iechyd Cymru o fewn y gymuned iechyd ryngwladol; a
b) sicrhau bod cymuned iechyd ehangach Cymru yn cael mwy o amlygrwydd y tu hwnt
i’n ffiniau.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd denu’r deallusion
rhyngwladol gorau ym maes iechyd i Gymru drwy gyfrwng gweithgareddau ymchwil
addysg uwch o’r radd flaenaf.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau a oedd
yn weddill o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gwneud toriadau o 8.4 y
cant mewn termau real i GIG Cymru ac y gallai hyn lesteirio’i allu i greu mwy o
gysylltiadau rhyngwladol a’u gwella.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
41 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant
2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod iechyd yng Nghymru ar ei hôl hi o’i gymharu â rhanbarthau a
gwledydd y byd sy’n cyflawni’r canlyniadau iechyd gorau oll.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
9 |
28 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant
3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'i chysylltiadau yn y gymuned
iechyd ryngwladol i archwilio’r dewisiadau ar gyfer rhaglen i leihau'r
niferoedd sy'n cael eu derbyn mewn ysbyty, yn debyg i’r rhaglen sydd wedi’i
threialu’n llwyddiannus yn Camden, New Jersey.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4922 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ystyried y Fframwaith Iechyd Rhyngwladol drafft, a anfonwyd at yr Aelodau
drwy e-bost ar 20 Chwefror 2012;
2. Yn nodi’r hyn sydd yn y Fframwaith ynghylch:
a) cryfhau cysylltiadau iechyd Cymru o fewn y gymuned iechyd ryngwladol; a
b) sicrhau bod cymuned iechyd ehangach Cymru yn cael mwy o amlygrwydd y tu hwnt
i’n ffiniau.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd denu’r deallusion
rhyngwladol gorau ym maes iechyd i Gymru drwy gyfrwng gweithgareddau ymchwil
addysg uwch o’r radd flaenaf; a
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'i chysylltiadau yn y gymuned
iechyd ryngwladol i archwilio’r dewisiadau ar gyfer rhaglen i leihau'r
niferoedd sy'n cael eu derbyn mewn ysbyty, yn debyg i’r rhaglen sydd wedi’i
threialu’n llwyddiannus yn Camden, New Jersey.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 28/02/2012
Dyddiad y penderfyniad: 28/02/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/02/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad