Manylion y penderfyniad
Debate on Approaches to Regeneration
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.56
NDM4915 Jane Hutt
(Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi bod y Llywodraeth yn bwriadu adolygu ei dulliau o
ymdrin ag adfywio yn unol ag agenda’r Llywodraeth gyfan o fynd i’r afael â
thlodi a chefnogi twf economaidd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymunedau yn
Gyntaf, un o’i phrif raglenni ar gyfer adfywio cymunedol, yn dangos ei bod yn
perfformio’n well drwy sicrhau bod gan y rhaglen dargedau clir, perthnasol a
mesuradwy i fynd i’r afael â thlodi a bod cyllid wedi’i gyfeirio at gyrraedd y
targedau hyn.
Derbyniwyd
gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosiectau
adfywio yn canolbwyntio ar flaenoriaethau lleol sy’n atebol yn ddemocrataidd
drwy gynyddu rôl cynghorau lleol yn y broses drwyddi draw.
Derbyniwyd
gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y gall canol tref bywiog chwarae rhan bwysig mewn
adfywio economi cymuned.
Derbyniwyd
gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant a oedd yn
weddill o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod
nad yw micro-reolaeth Llywodraeth Cymru o’i hagenda adfywio yn gweithio, ac y
bydd yn rhaid i'r Trydydd Sector a’r Sector Annibynnol fod yn bartneriaid
gwirioneddol o ran strategaeth a chyflenwi er mwyn sicrhau adfywio cymunedol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
7 |
29 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4915 Jane Hutt
(Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi bod y Llywodraeth yn bwriadu adolygu ei dulliau o ymdrin ag adfywio yn unol ag agenda’r Llywodraeth gyfan o fynd i’r afael â thlodi a chefnogi twf economaidd.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymunedau yn
Gyntaf, un o’i phrif raglenni ar gyfer adfywio cymunedol, yn dangos ei bod yn
perfformio’n well drwy sicrhau bod gan y rhaglen dargedau clir, perthnasol a
mesuradwy i fynd i’r afael â thlodi a bod cyllid wedi’i gyfeirio at gyrraedd y
targedau hyn.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosiectau adfywio
yn canolbwyntio ar flaenoriaethau lleol sy’n atebol yn ddemocrataidd drwy
gynyddu rôl cynghorau lleol yn y broses drwyddi draw.
Yn credu y gall canol tref bywiog chwarae rhan bwysig mewn adfywio economi cymuned.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
12 |
52 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 21/02/2012
Dyddiad y penderfyniad: 21/02/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/02/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad