Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.58.
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM4912 William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i gyhoeddi cynlluniau cyflawni wedi’u costio’n briodol ar gyfer polisïau iechyd allweddol, fel archwiliadau iechyd blynyddol ar gyfer pobl dros 50 oed a darparu gwasanaethau gofal sylfaenol ar benwythnosau a gyda’r nos.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
34 |
57 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu “Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i gyhoeddi cynlluniau cyflawni wedi’u costio’n briodol ar gyfer” a rhoi yn ei le “Yn cydnabod y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran datblygu cynlluniau ar gyfer gweithredu”.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
28 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ar ôl ‘pobl dros 50 oed’ rhoi ‘, cynyddu nifer yr ymwelwyr iechyd’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
0 |
52 |
57 |
Gwrthodwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r diffyg cynllunio manwl yng nghyswllt cyflawni polisïau iechyd allweddol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Gwrthodwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cynlluniau manwl am gwmpas, cost, cyflawni a chanlyniadau disgwyliedig polisïau iechyd allweddol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
29 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4912 William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran datblygu cynlluniau ar gyfer gweithredu polisïau iechyd allweddol, fel archwiliadau iechyd blynyddol ar gyfer pobl dros 50 oed a darparu gwasanaethau gofal sylfaenol ar benwythnosau a gyda’r nos.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
28 |
57 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 09/02/2012
Dyddiad y penderfyniad: 08/02/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 08/02/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad