Manylion y penderfyniad
Dadl ar: Mae Addysgu’n Gwneud Gwahaniaeth
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.31
NDM4908 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod ansawdd addysgu ac arweinyddiaeth yn allweddol er mwyn
trawsnewid perfformiad ysgolion, a
2. Yn croesawu’r camau a gymerwyd i gyflwyno Gradd Meistr mewn Ymarfer
Addysgol o’r hydref hwn ymlaen, a’r ffaith bod safonau proffesiynol newydd ar
gyfer athrawon, gan gynnwys gofynion o ran llythrennedd a rhifedd, wedi’u
cyflwyno, ynghyd â’r rheoliadau rheoli perfformiad newydd ar gyfer athrawon a
phenaethiaid.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod
cyfraniad nifer o athrawon ac arweinwyr ysgol nodedig yng Nghymru fel sbardun
allweddol i weddnewid perfformiad ysgolion.
Derbyniwyd gwelliant
1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ail-rifo’r pwyntiau sy’n dilyn:
Yn nodi â phryder yr asesiad yn Adroddiad Blynyddol 2010/11 Estyn bod
"gostyngiad sylweddol" yn nifer yr enghreifftiau o addysgu
‘ardderchog’ neu ‘rhagorol’ a ganfuwyd.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â rheol Sefydlog
12.36
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ym Mhwynt 2: Dileu ‘croesawu’r’ a rhoi ‘nodi’r’ yn ei le.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
38 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud gwaith pellach ar adnabod a gwerthuso
amrywiadau mewn safonau addysgu ledled Cymru a blaenoriaethu camau gweithredu i
fynd i’r afael ag unrhyw bryderon yn unol â hynny.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
9 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod natur ddewisol y cymhwyster gradd Meistr yn golygu efallai na
fydd anghenion hyfforddi’r holl athrawon newydd gymhwyso wedi cael sylw llawn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
5 |
13 |
38 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod dilysu a monitro’r cymhwyster
gradd Meistr yn cael ei wneud yn unol â’r safonau rhyngwladol uchaf.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
2 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant
6.
Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r Cymhwyster Proffesiynol
Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
18 |
7 |
31 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant
7.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4908 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.Yn cydnabod cyfraniad nifer o athrawon ac arweinwyr ysgol nodedig yng
Nghymru fel sbardun allweddol i weddnewid perfformiad ysgolion.
2. Yn nodi â phryder yr asesiad yn Adroddiad Blynyddol 2010/11 Estyn bod
"gostyngiad sylweddol" yn nifer yr enghreifftiau o addysgu
‘ardderchog’ neu ‘rhagorol’ a ganfuwyd.
3. Yn croesawu’r camau a gymerwyd i gyflwyno Gradd Meistr mewn Ymarfer
Addysgol o’r hydref hwn ymlaen, a’r ffaith bod safonau proffesiynol newydd ar
gyfer athrawon, gan gynnwys gofynion o ran llythrennedd a rhifedd, wedi’u
cyflwyno, ynghyd â’r rheoliadau rheoli perfformiad newydd ar gyfer athrawon a
phenaethiaid.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud gwaith pellach ar adnabod a
gwerthuso amrywiadau mewn safonau addysgu ledled Cymru a blaenoriaethu camau gweithredu
i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon yn unol â hynny.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod dilysu a monitro’r cymhwyster
gradd Meistr yn cael ei wneud yn unol â’r safonau rhyngwladol uchaf.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 08/02/2012
Dyddiad y penderfyniad: 07/02/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 07/02/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad